Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i Mike Ruddock OBE, fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad eithriadol at rygbi yng Nghymru, a'i gysylltiad hirsefydlog â chymuned chwaraeon y rhanbarth.
Ganed Mike Ruddock ym Mlaenau, Gwent ym 1959, ac mae'n cael ei ystyried yn un o'r hyfforddwyr rygbi gorau yng Nghymru. Dechreuodd ei yrfa chwarae yng Nghlwb Rygbi Blaenau, ac yn ystod ei yrfa chwaraeodd 123 gêm a sgorio 43 cais i Glwb Rygbi Abertawe, gan ymddangos mewn gemau proffil uchel yn erbyn Awstralia, Māoris Seland Newydd a Zimbabwe. Roedd yn rhan o uwch-garfan Cymru o 1982 tan 1984.
Pan oedd dim ond yn 26 oed, cafodd ddamwain yn y gwaith a olygodd fod ei yrfa chwarae wedi dod i ben yn gynnar, ond roedd hyn yn nodi dechrau taith eithriadol fel hyfforddwr. Arweiniodd Mike Ruddock glwb Blaenau i ennill teitlau cynghrair a theitlau cwpan cyn hyfforddi Cross Keys a Bective Rangers yn Iwerddon. Yng Nghlwb Rygbi Abertawe, roedd yn gyfrifol am oruchwylio buddugoliaethau gan gynnwys ennill gêm enwog yn erbyn Awstralia ym 1992, dau deitl cynghrair Cymru a Chwpan Cymru.
Ym 1997, daeth yn gyfarwyddwr hyfforddi Leinster, gan sicrhau'r Bencampwriaeth Ryng-ranbarthol a dyfarnu'r cytundebau proffesiynol cyntaf i sêr y dyfodol, megis Brian O'Driscoll. Gan ddychwelyd i Gymru yn 2000, bu'n hyfforddi Glynebwy, Cymru A a Dreigiau Blaenau Gwent gan eu harwain i orffen yn y safle gorau erioed.
Cafodd ei benodi'n brif hyfforddwr Cymru yn 2004, ac fe arweiniodd y tîm cenedlaethol at Y Gamp Lawn hanesyddol ym Mhencapwriaethau'r Chwe Gwlad yn 2005 - y tro cyntaf ers 1978.
Dyfarnwyd OBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2006 am ei wasanaethau i rygbi.
Yn dilyn ei yrfa hyfforddi rhyngwladol, parhaodd Ruddock i sicrhau llwyddiant ar draws amrywiaeth o dimau. Dan ei arweinyddiaeth, enillodd Clwb Rygbi Lansdowne dri theitl Cynghrair Iwerddon Cyfan yn 2013, 2015 a 2018, yn ogystal â Chwpan Iwerddon Cyfan yn 2018. Yn ddiweddarach, dychwelodd i Gymru yn 2020 fel Cyfarwyddwr Perfformiad y Gweilch, cyn ymddeol yn 2024 pan oedd yn 66 oed.
Wrth dderbyn ei radd er anrhydedd, dywedodd Mike Ruddock: "Mae fy nghysylltiadau â Phrifysgol Abertawe'n deillio'n ôl i fy nghyfnod yn chwarae rygbi, pan fydden ni'n aml yn hyfforddi ar y trac rhedeg ac yn y gampfa yn y Brifysgol. Stan Addicott, a oedd yn ddarlithydd ac yn brif hyfforddwr ym Mhrifysgol Abertawe, oedd fy hyfforddwr gyda'r Whites yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd y cyswllt yn un cryf iawn. Pan oeddwn i'n hyfforddi Clwb Rygbi Abertawe, roeddwn i'n aml yn gwylio Prifysgol Abertawe'n chwarae, a dewisais Chris Clarke, a oedd yn fyfyriwr yn y Brifysgol, i chwarae i'r Whites yn erbyn Awstralia, pencampwyr y byd ar y pryd, ym mis Tachwedd 1992. Gwnaeth Chris serennu wrth i'w dîm ennill 21-6 - buddugoliaeth enwog iawn.
"Ar ôl byw yn Iwerddon am nifer o flynyddoedd, dychwelais i Abertawe fel y cyfarwyddwr datblygu gyda'r Gweilch. Fel rhan o fy rôl yno, dechreuais weithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe i ddenu chwaraewyr talentog i'r rhanbarth. Mwynheais hyrwyddo enw rhagorol Prifysgol Abertawe ar lwyfan byd-eang. Roedd gallu Prifysgol Abertawe i ddenu, meithrin a datblygu'r dalent academaidd orau a'r dalent orau ym maes chwaraeon yn atgof bythgofiadwy o'm cyfnod ym maes rygbi."