Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i gyfreithiwr ac academydd uchel ei fri, a chyn-gydweithwyr a ffrind i'r sefydliad, yr Athro Iwan Davies.
Derbyniodd yr Athro Davies ddoethuriaeth er anrhydedd yn y cyfreithiau yn ystod cynulliad graddio'r gaeaf Ysgol y Gyfraith ar Gampws y Bae ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025.
Dechreuodd yr Athro Davies ar ei fywyd academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dod yn uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Yna dechreuodd ar ddaliadaeth 25 o flynyddoedd yn Abertawe, fel Athro y Gyfraith i ddechrau, yna bu’n arweinydd Ysgol y Gyfraith ac yna'n Ddirprwy Is-ganghellor dros Ryngwladoli.
Yn ddiweddar, gwnaeth ymddeol fel Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Bangor, lle gwnaeth dywys y sefydliad i fod yn un o’r 30 o brifysgolion gorau yn y DU am effaith ymchwil yn REF 2021.
Fel Dirprwy Is-ganghellor Abertawe, arweiniodd yr Athro Davies y gwaith o greu Gampws y Bae y Brifysgol, gan groesawu ei fyfyrwyr cyntaf yn 2015. Yn eiriolwr angerddol a darbwyllol dros ryngwladoli, chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu partneriaeth drawswladol nodedig Abertawe â Navitas, gan ddenu buddsoddiad gwerth £40 miliwn a sefydlu llwybr a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer addysg ryngwladol.
Sefydlodd a chadeiriodd yr Athro Davies Cymru Fyd-eang, partneriaeth strategol rhwng prifysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). O dan ei arweinyddiaeth, daeth Cymru Fyd-eang yn gonglfaen polisi addysg uwch ar ôl Brexit, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu ag Unol Daleithiau America, Fietnam ac Indonesia, a sicrhau cyllid gan y llywodraeth gwerth £3.5 miliwn i gefnogi symudedd tuag i mewn a thuag allan i fyfyrwyr.
Erys yn ymrwymedig i addysg uwch yn fyd-eang o hyd. Ar hyn o bryd, mae'n gadeirydd Pwyllgor Cyllid a Strategaeth The British University in Egypt ac yn Ymddiriedolwr hefyd, gan hyrwyddo'r sefydliad fel prif lwybr addysg Brydeinig i Affrica. Mae ei weledigaeth yn parhau i ymgorffori rhagoriaeth academaidd, gweledigaeth economaidd a diben moesol.
Yn siaradwr Cymraeg, bu'r Athro Davies yn eiriolwr gydol oes dros ddatblygu ysgolheictod cyfrwng Cymraeg. Yn Abertawe, sefydlodd Academi Hywel Teifi - sefydliad trawsnewidiol sy'n hyrwyddo addysg ddwyieithog ac yn cryfhau dimensiwn diwylliannol Cymru ar fywyd prifysgol. Mae ei arweinyddiaeth wedi gadael gwaddol o amlygrwydd, urddas a bywioldeb ysgolheictod Cymreig ar draws disgyblaethau.
Mae gan yr Athro Davies Gymrodoriaeth Wadd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a sawl penodiad athrawol anrhydeddus mewn prifysgolion blaenllaw ledled y byd. Ac yntau'n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, caiff ei gydnabod am ei gyfraniadau i strategaeth addysg uwch ac i ddatblygu ysgolheictod cyfraith fasnachol o bwys rhyngwladol.
Wrth dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, meddai'r Athro Davies: "Mae'n bleser mawr gennyf dderbyn y Gymrodoriaeth er Anrhydedd hon gan Brifysgol Abertawe, lle sy'n agos iawn at fy nghalon. Roedd y 25 o flynyddoedd a dreuliais yma yn adeg o dwf proffesiynol cyfoethog a diben a rennir. Fel Pennaeth Ysgol y Gyfraith, cefais y fraint o arwain ei thrawsnewidiad o fod yn adran israddedig fach a oedd newydd gael ei sefydlu i fod yn Ysgol y Gyfraith ffyniannus sy’n cynnig gwasanaeth llawn i bron mil o fyfyrwyr, wedi’i chefnogi gan gymuned o ymchwilwyr rhagorol. Roedd arwain y gwaith o gynllunio, datblygu ac agor Campws y Bae'n llwyddiannus hefyd yn garreg filltir falch - un a oedd yn enghraifft o egni, uchelgais ac ysbryd blaengar Abertawe. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn golygu llawer iawn i mi, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r Brifysgol ac i bawb a rannodd y daith anhygoel honno".