Dr Laurent Charlet

Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Peirianneg (EngD) i Dr Laurent Charlet, geocemegydd moleciwlaidd amgylcheddol o fri byd-eang.

Mae Dr Charlet yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel arbenigwr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes adweithedd cemegol ar raddfa foleciwlaidd. Ac yntau'n Athro ym Mhrifysgol Grenoble-Alpes, mae'n chwarae rôl ganolog yn y Sefydliad Gwyddor Ddaear, lle mae ei ymchwil arloesol yn llunio strategaethau gwyddonol ar gyfer diogelu adnoddau naturiol, rheoli amgylcheddau o dan y ddaear yn gyfrifol, a hyrwyddo gwydnwch byd-eang.

Mae ei waith amlddisgyblaethol yn rhychwantu ystod eang o heriau gwyddonol brys, gan gynnwys cymhwyso nanoronynnau mewn therapiwteg canser, yn ogystal ag arloesiadau mewn ansawdd dŵr, storio hydrogen a rheoli gwastraff niwclear. Mae ei gyfraniadau eithriadol wedi ennill nifer o anrhydeddau iddo, yn enwedig Medal Arian CNRS am Ragoriaeth mewn Ymchwil. Mae wedi gwasanaethu fel athro gwadd mewn sefydliadau blaenllaw gan gynnwys EPFL-Lausanne yn y Swistir a Phrifysgol Utrecht yn yr Iseldiroedd, ac mae'n aelod er anrhydedd o'r Institut Universitaire de France.

Mae gan Dr Charlet hanes eithriadol o arweinyddiaeth ryngwladol hefyd. Mae wedi gwasanaethu fel Prif Olygydd y Journal of Hydrology, wedi arwain Cangen Ffrainc o Gymdeithas Ryngwladol Daeareg Feddygol, a gwnaeth gydweithio ag UNESCO ar gadwraeth safleoedd cynhanesyddol sy'n arwyddocaol yn ddiwylliannol fel Lascaux. Mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniadau mawr at wyddoniaeth amgylcheddol, fe'i penodwyd yn Athro Nodedig yn 2007.

Ochr yn ochr â'i waith yn Grenoble, mae gan Dr Charlet rolau cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe, Labordy Cenedlaethol Lawrence Berkeley yn yr Unol Daleithiau a Phrifysgol Waterloo yng Nghanada. Mae ei bartneriaeth hirsefydlog â Phrifysgol Abertawe wedi helpu i ysgogi arloesi gwyddonol ym maes iechyd, cynaliadwyedd a diogelu'r amgylchedd.

Wrth dderbyn y dyfarniad er anrhydedd, meddai Dr Charlet: "Mae'n anrhydedd mawr i mi ddod yn gymrawd Prifysgol Abertawe. Rwyf wedi bod yn cydweithio â'r Brifysgol ers dros chwarter canrif, yn gyntaf yn fy rôl fel cynghorydd i Lywydd Prifysgol Grenoble yn Ffrainc pan wnes i sefydlu a datblygu'r bartneriaeth strategol sy'n dal i dyfu rhwng y ddwy brifysgol, yna drwy gyfres o gydweithrediadau gwyddonol â chydweithwyr ar y ddau gampws. Yn fwy diweddar, mae'r Athro Steve Conlan a minnau wedi dechrau gwaith ynghylch podoconiosis, clefyd trofannol sydd wedi'i esgeuluso ac sy'n cyfuno arbenigedd priodol mewn dadansoddi nanoraddfa epigenig a geocemegol a gymhwysir i gelloedd a meinweoedd. Bydd y gwaith amlddisgyblaethol agos hwn yn cryfhau'r timau ymchwil amlddisgyblaethol yn Abertawe ac yn Grenoble ac yn ehangu ymhellach gydweithrediad ymchwil strategol ein dwy brifysgol."

Rhannu'r stori