Mae gwaith adeiladu ar y Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd (NISH), canolfan arloesol newydd sy'n ymroddedig i hyrwyddo iechyd, chwaraeon ac arloesedd technoleg ar fin dechrau. Bydd y gwaith i amnewid y pafiliwn presennol ar Lôn Sgeti'n dechrau fis Ionawr, gyda'r gwaith adeiladu llawn yn dechrau yn fuan wedi hynny.
Bydd y prif gyfleuster, pedwar llawr, 2000m2 ym mynedfa Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn dod â phartneriaid cyhoeddus, preifat ac academaidd ynghyd i greu ecosystem arloesol, y cyntaf o'i bath - wedi'i ddylunio i wella iechyd cyhoeddus, chwaraeon elît a chymunedol, ac ysgogi twf economaidd ar draws y rhanbarth a thu hwnt.
Wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe, ei ariannu gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a'i gefnogi gan Gyngor Abertawe a byrddau iechyd lleol, nod NISH yw cyflymu twf arloesi ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygol a gofal iechyd yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe gan ddod ag arbenigedd lleol, cenedlaethol ac amlwladol ynghyd.
Bydd y Sefydliad yn cefnogi cwmnïau deillio a chwmnïau sy'n tyfu drwy ddeori a gweithgarwch ymchwil a datblygu a galluogi mynediad at ddata, arbenigedd a chyfleusterau i wella datblygiad cynnyrch. Mae ganddo hefyd y nod o ddatblygu twf academaidd rhanbarthol drwy greu swyddi a buddsoddiad, a gwella iechyd y cyhoedd gan gefnogi arloesedd ataliol ac adsefydlu.
Fel angor Parc Gwyddoniaeth ac Arloesi ehangach, bydd NISH yn lle ar gyfer datblygu, treialu ac uwchraddio technolegau newydd mewn amgylcheddau byd go iawn. Mae ef mewn sefyllfa unigryw i lenwi bylchau'r DU yn yr isadeiledd technoleg chwaraeon canolog.
Bydd yr adeilad pedwar llawr newydd yn cynnwys:
- Mannau i weithio mewn partneriaeth a chydweithredu
- Academi Iechyd a Lles
- Ystafelloedd efelychu chwaraeon o'r radd flaenaf
- Ystafelloedd arloesi a deori
- Cyfleusterau addysgu a chyfryngau arloesol
- Hyb Vodaphone, sy'n darparu arbenigedd technoleg ar y safle
Bydd yr adnoddau hyn yn mynd law yn llaw ag ecosystem ehangach o bartneriaid a chyfleusterau cyfagos, gan gynnwys Ysbyty Singleton, Prifysgol Abertawe, canolfannau hyfforddiant elît, a mannau gwyrdd megis Parc Singleton a Bae Abertawe.
Meddai'r Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr NISH: "Bydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd yn helpu i roi Abertawe - a Chymru - ar y map byd-eang am ymchwil arloesol, datblygu cynnyrch, ac arloesedd iechyd cymunedol. Bydd yn gatalydd ar gyfer darganfod, buddsoddiant a gwella llesiant."
Mae NISH yn bartneriaeth ar y cyd rhwng y byd academaidd, y diwydiant a'r GIG sy'n esblygu'n barhaus. Ei nod yw cryfhau partneriaethau presennol a meithrin cynghreiriau newydd gan ddenu dawn ac annog buddsoddiad er mwyn rhoi hwb i'r economi leol a gwneud Abertawe yn arweinydd yn fyd-eang ym maes arloesi technoleg feddygaeth a thechnoleg chwaraeon.
Y bwriad yw creu dros 1,000 o swyddi yn ardal Abertawe a bydd yn werth dros £150 miliwn i'r economi ranbarthol erbyn 2033.
Bydd y gwaith adeiladu'n dechrau ym mis Ionawr, a'r adeilad yn bwriadu agor yn 2027.
Gellir cyflwyno cais nawr i rentu gofod swyddfa yn NISH, a cheir opsiynau aelodaeth rithwir hefyd.