Grŵp o fyfyrwyr y tu allan i adeilad yn dal bagiau sbwriel a chasglwyr sbwriel.

Mae elusen gwirfoddoli i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, Discovery SVS, yn dathlu 60 mlynedd o wneud gwahaniaeth - ac mae'n gwahodd y gymuned ehangach i ymuno â’r dathliadau.

Ers 1966, mae Discovery wedi helpu miloedd o fyfyrwyr i gefnogi cymunedau lleol drwy gyfrwng prosiectau sy'n canolbwyntio ar les, cynhwysiant, gwaith ieuenctid, a'r amgylchedd.

Nawr, gyda grant gwerth bron £14,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae'r tîm yn lansio Discovery60 - blwyddyn o ddathlu newid a ysgogir gan fyfyrwyr.

Bydd y cyllid hwn yn cefnogi:

  • Addewid 60: Gwahoddir gwirfoddolwyr, cyn-fyfyrwyr, staff a chefnogwyr i wneud addewid sydd wedi'i ysbrydoli gan y rhif 60 - p'un a yw hynny'n gwirfoddoli am 60 awr, yn rhoi £60 neu’n rhannu 60 o atgofion;
  • Casglu straeon yn ddwyieithog: Gall gwirfoddolwyr presennol a gwirfoddolwyr y gorffennol rannu eu profiadau gyda Discovery yn Gymraeg neu'n Saesneg er mwyn iddynt gael eu harchifo mewn partneriaeth ag Archifau Richard Burton
  • Discovery: Ei Hanes: Bydd casgliad o luniau, straeon ac eitemau cofiadwy yn cael eu cyhoeddi ar ffurf copi caled ac ar-lein, ac yn cael eu storio yng Nghasgliad y Werin Cymru ac yn Archifau Richard Burton; a, 
  • Digwyddiad dathlu 60 mlynedd: Cynhelir diwrnod dathlu ym mis Mawrth 2026. Bydd y diwrnod yn dechrau gyda thê prynhawn i ddiolch i randdeiliaid allweddol a rhoi teyrnged iddynt, yna bydd dathliad ar gyfer y gymuned gyfan a bydd croeso i bawb sydd wedi bod yn rhan o daith Discovery.

Dywedodd Eleanor Norton, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Discovery SVS: "Rydym yn falch iawn o gael y grant hwn i'n helpu i ddathlu 60 mlynedd o Discovery. Mae Discovery'n dathlu 60 mlynedd o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli yn dod ynghyd i greu'r gymuned o'u cwmpas yn fwy diogel, yn gryfach ac yn hapusach a hynny drwy gyfrwng amrywiaeth eang o brosiectau.

“Rydym wrth ein boddau yn dathlu'r garreg filltir bwysig hon, gan gasglu straeon ar hyd y blynyddoedd, ac amlygu'r effaith anhygoel y mae ein gwirfoddolwyr wedi'i chael."

Ychwanegodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Yn ystod y 60 mlynedd ers sefydlu Discovery, mae wedi bod yn rhan hollbwysig o waddol effaith gymunedol Prifysgol Abertawe. Mae'n darparu cyfleoedd i'n myfyrwyr gymryd rhan mewn newid cynhwysol a arweinir gan y gymuned, ac i ddatblygu'r sgiliau a'r profiad a fydd yn eu galluogi nhw i gefnogi eu cymunedau nhw yn y dyfodol.

"Rydym wrth ein boddau'n cefnogi'r ymgyrch arbennig hon, sy'n adlewyrchu esblygiad gwirfoddoli i fyfyrwyr a sut y mae'n parhau i lywio ein cenhadaeth heddiw, wrth i ni gefnogi ein myfyrwyr i fod yn ysgogwyr newid yn y dyfodol."  

Nod Discovery60 yw dod â chenedlaethau ynghyd, anrhydeddu gwaddol gwirfoddoli i fyfyrwyr, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ysgogwyr newid. Mae hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad hirsefydlog yr elusen at gynhwysiant a chyfranogiad cymunedol  - gwerthoedd sydd wedi arwain ei gwaith am chwech degawd.

Gwnaeth yr un ysbryd helpu Prifysgol Abertawe i ennill ei statws Prifysgol Noddfa yn ddiweddar, gyda Discovery'n chwarae rôl allweddol wrth groesawu ceiswyr lloches a gweithio'n agos gyda Chymorth Ceiswyr Lloches Abertawe.

Beth am gymryd rhan yn Discovery60 - Rhannwch eich stori neu gallwch wneud addewid

 

Rhannu'r stori