
Yn edrych tua'r de o 19-600 troedfedd ar draws rhewlif Kangshung i gopaon ar ffin Nepal.
(Chwith) Tynnwyd gan yr Athro Carl Cater yn 2024. Cydnabyddiaeth: Yr Athro Carl Cater. (De) Tynnwyd gan Charles Kenneth Howard-Bury ym 1921. Cydnabyddiaeth: Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
Wrth ddilyn yr un llwybr â'r teithiau enwog a wnaeth ragchwilio’r llwybr gogleddol i Fynydd Everest dros 100 mlynedd yn ôl, mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu i ddogfennu'r newidiadau amgylcheddol a diwylliannol dramatig yn y rhanbarth.
Mae'r Athro Carl Cater, Athro Cysylltiol mewn Marchnata Twristiaeth, a'r Athro Linsheng Zhong, o Academi’r Gwyddorau Tsieina, wedi rhannu eu canfyddiadau mewn erthygl newydd a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Geographical.
Mae 'Everest Revisited' yn cynnig archwiliad dwfn o Gwm Kama, rhanbarth yn Tibet sy'n arwain i fyny ochr ddwyreiniol Mynydd Everest neu Qomolangma, fel y mae y trigolion lleol yn ei adnabod.
Gan ddefnyddio lluniau a sylwadau manwl o deithiau Prydeinig rhwng 1921 a 1924 gan yr RGS a'r Alpine Club, yn ogystal â'r rhai hynny o ymweliad diweddar gan Yr Athro Cater, mae'r erthygl yn darparu cymhariaeth hanesyddol unigryw.
Wedi'i ddisgrifio fel "un o gymoedd mwyaf hardd y byd" gan Charles Howard-Bury, arweinydd taith ym 1921, dengys y lluniau diweddar pam mae’r cwm yn parhau i gadw ei hatyniad heddiw, ond maen nhw hefyd yn amlygu'r heriau neilltuol a chyflym mae Mynyddoedd Himalaia yn eu hwynebu.
Mae un o ochrau mwyaf syfrdanol Mynydd Everest, arwyneb Kangshung, yn sefyll ddwy filltir yn uwch na'r rhewlif isod, ac er bod y mynyddoedd a'r copaon yn edrych yn debyg iawn o hyd, mae'r dirywiad yn arwyneb y rhewlifoedd isod yn nodyn atgoffa ffisegol o effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Meddai'r Athro Cater a’r Athro Zhong yn yr erthygl: "Mae arwyneb y rhewlif bellach wedi’i orchuddio ag ysgyrion cerrig a nifer o lynnoedd uwchrewlifol, gan adael tirwedd sy'n debyg i'r lleuad, sy'n cyferbynnu â'r arwyneb rhew heb ysgyrion ym 1921."
Heddiw mae taith Cwm Kama yn dod yn fwy poblogaidd â cherddwyr o Tsieina, fodd bynnag mae cyfleusterau cyfyngedig i ymdopi ag effeithiau'r twristiaid newydd hyn, megis gwastraff dynol a phlastig.
Fodd bynnag, mae'r hwb mewn poblogrwydd yn cynnig buddion posib hefyd.
Meddai'r Athro Cater a'r Athro Zhong: "Mae twf twristiaeth wedi dod â chyfleoedd economaidd i boblogaethau lleol, yng Nghwm Kama ond yn benodol yn Rongbuk, lle mae dinas gwersylledig bellach yn darparu ar gyfer yr amcangyfrif hanner miliwn o dwristiaid yn flynyddol sy'n cael eu cludo gan fflyd o fysus trydanol o'r hyb yn Tashizhom.
"Gall ail-ddyluniad disgwyliedig Gwarchodfa Natur Genedlaethol Qomolangma fel parc cenedlaethol yng nghynllun presennol y llywodraeth ganolog ddod â chyfleoedd ar gyfer rheoli pellach yn y cyfnod hwn o newid."
I gloi eu taith, ymwelodd yr Athro Cater â Rongbuk, gan adeiladu carnedd goffa i "anrhydeddu aberth Kellas, Mallory ac Irvine a'r naw gweithiwr o Tibet ac India a gollwyd ym 1922 a 1924 wrth archwilio'r mynydd."
Cafodd y daith ei hariannu gan Academi’r Gwyddorau Tsieina drwy Fenter Cymrodoriaeth Ryngwladol yr Arlywydd.
Mae'r awduron yn bwriadu ehangu eu canfyddiadau mewn papur a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan.
Darllenwch yr erthygl lawn yn Rhifyn Ionawr 2025 o Geographical.
Gweld lluniau treigl amser o daith Yr Athro Cater.
Dysgwch fwy am waith yr Athro Cater yn ei lyfr diweddaraf wedi'i olygu, The Routledge International Handbook of Adventure Tourism, gyda'r Athro Gill Pomfret a Dr Adele Doran.