Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Technocamps yn Cynnig Hanfodion y Cwricwlwm i Addysgwyr o Bob Cwr o Gymru

Gwnaeth Technocamps cynnal diwrnod ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ledled Cymru gyda’r nod o ysbrydoli ac ysgogi pawb sy’n gweithio yn y sector.

Mynychodd dros 100 o athrawon a rhanddeiliaid i ddysgu rhagor am effaith y cwricwlwm newydd a sut y byddai’n effeithio arnynt yn yr ystafell ddosbarth.

Aeth staff addysgu Technocamps ati i arddangos rhai o’r gweithdai sydd ar gael; darperir pob un ohonynt am ddim i ysgolion yng Nghymru. Yn ogystal â darparu adnoddau addysgu, roedd y sesiynau’n cynnig awgrymiadau ac arweiniad y gellir eu defnyddio i gynnwys cyfrifiadureg a meddwl gyfrifiannol wrth gyflwyno yn yr ystafell ddosbarth. Rhannwyd y gweithdai yn rhai cynradd ac uwchradd, gyda phynciau perthnasol megis dysgu peiriant, moeseg, ceir awtonomaidd a chryptograffeg ar y ddewislen.

Cafodd Technocamps hefyd y fraint o gynnal ‘Cwricwlwm ar gyfer Llwyddiant’ ar ran Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn y Ffowndri Gyfrifiadurol ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Wrth law i ateb cwestiynau gan y gynulleidfa yr oedd Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg yng Nghymru, yr Athro Graham Donaldson y bu i’w argymhellion ysbrydoli’r newidiadau, a’r Athro Tom Crick, a gyflawnodd rôl bensaernïol allweddol wrth ddylunio’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Pwysleisiodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, y gwaith cadarn a wneir ar hyn o bryd mewn ysgolion, a’r modd y byddai’r cwricwlwm newydd yn sicrhau bod pobl ifanc wedi’u harfogi ar gyfer y dyfodol: “Cam dewr iawn yw gofyn i unrhyw wleidydd edrych tuag at ddyfodol llwyddiannus, fodd bynnag, rwy’n hyderus bod ein rhaglen ddiwygio uchelgeisiol a chyfunol yn cyflawni ’nawr ac ar gyfer dyfodol llwyddiannus iawn.”

Aeth yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps, ati i grynhoi effaith y dydd: “Nid cwricwlwm ar gyfer sêr talentog yn unig fydd hwn, mae ar gyfer pob person ifanc yng Nghymru, a bydd gan Gyfrifiadureg linyn dysgu clir o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.”

Nododd yr Athro Tom Crick: “Dyma’r cyfle mawr i ailfeddwl. Rydym am i bawb gydnabod bod deall Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn rhan allweddol o fod yn ddinesydd Cymru.”

Rhannu'r stori