Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Llun abstract o fatri

Mae Prifysgol Abertawe'n cydweithio ag OXIS Energy UK Ltd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu anodau metel lithiwm datblygedig i wella cylch bywyd batris lithiwm-sylffwr neu Li-S, sef batris y mae modd eu hailwefru sy'n enwog am eu hynni uchel yn benodol.

Yn rhan o’r bartneriaeth gydweithio, bydd OXIS yn rhan-ariannu myfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe ar raglen bedair blynedd o hyd i wella perfformiad batris Li-S. Daw gweddill yr arian  gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPC) drwy Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) Prifysgol Abertawe .

Mae OXIS Energy eisoes yng nghanol sefydlu cyfleuster a adeiladwyd yn bwrpasol ym Mhort Talbot, ger Prifysgol Abertawe, er mwyn cynhyrchu deunydd electrolyt a chatod gweithredol yn benodol ar gyfer masgynhyrchu celloedd lithiwm-sylffwr. Bydd y cyfleuster hwn yn cynnwys offer uwch ac yn helpu OXIS i wella perfformiad ei dechnoleg yn ogystal â datblygu staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda drwy raglenni PhD ym Mhrifysgol Abertawe – arbenigedd y gallai OXIS elwa arno yn y dyfodol.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol OXIS Energy, Huw Hampson-Jones, a raddiodd o Brifysgol Abertawe: "Mae'n bleser gennym fod yn rhan o'r rhaglen PhD hon a fydd, gobeithiwn, yn rhoi cipolwg pellach ar yr ymchwil rydym yn ei chynnal. At hynny, rydym eisiau bod Cymru, drwy ein cyfleuster ym Mhort Talbot, yn arwain y ffordd wrth gynhyrchu celloedd lithiwm-sylffwr ar gyfer systemau batris yn fasnachol. Rydym o’r farn y bydd y rhaglen hon yn creu swyddi y mae angen sgiliau uchel ar eu cyfer ac yn helpu i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang."

Meddai'r Athro Owen Guy, sef pennaeth yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae ein partneriaeth gydweithio ag OXIS Energy yn hynod bwysig yn strategol i'r Brifysgol, ac mae'n datblygu arbenigedd grŵp Storio Ynni yr Athro Serena Margadonna, yn Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol y Brifysgol (FMRI).

Mae'r rhaglen PhD gydag OXIS yn un o blith y partneriaethau cydweithio ehangach ag OXIS, gan ddatblygu technolegau a chymwysiadau sy'n ymwneud â batris lithiwm-sylffwr. Mae OXIS hefyd yn bartner ym mhrosiect Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol gwerth £90M Prifysgol Abertawe. Bydd y berthynas yn cynnig y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr dawnus ar gyfer cyfleuster newydd OXIS Energy yng Nghymru."

Mae’r  cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe ac OXIS yn enghraifft o ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ddatblygu technolegau mwy cynaliadwy. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr ymchwil i led-ddargludyddion sy’n cael ei gwneud yn y Brifysgol, gan gynnwys creu batris gwell sy’n para’n hwy, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio â ni, cysylltwch â ni

Rhannu'r stori