Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae deuddeg o athrawon o Siavonga, yn Zambia, wedi dod i Abertawe i ymweld â’u hysgolion partner, dan nawdd rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau’r British Council.

Mae athrawon a disgyblion mewn 14 ysgol yn Abertawe a Zambia wedi dod ynghyd i fynd i’r afael â gwastraff plastig, diolch i bartneriaeth a sefydlwyd gan Discovery, elusen wirfoddoli i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Mae deuddeg o athrawon o Siavonga, yn Zambia, wedi dod i Abertawe i ymweld â’u hysgolion partner, dan nawdd rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau’r British Council.

Thema eu prosiect cydweithredol yw Dim Plastig, ac mae disgyblion ac athrawon o ysgolion cynradd, uwchradd ac anghenion arbennig wedi bod yn trafod ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â defnyddio plastigion untro. 

Ym mis Gorffennaf 2019, aeth athrawon o saith ysgol yn Abertawe i ymweld â’u hysgolion partner yn Siavonga. Dechreuon nhw’r wythnos gydag ymgyrch casglu sbwriel. Dros y dyddiau dilynol, creodd y disgyblion amrywiaeth o weithiau celf, caneuon, breichledi ac arteffactau eraill sy’n creu incwm gan ddefnyddio’r gwastraff plastig.

Bydd tro’r grŵp o Zambia, yn ymweld ag Abertawe, bellach yn datblygu’r fenter hon, ac mae athrawon o Zambia yn gweithio gyda disgyblion Abertawe i roi syniadau ar waith. Byddant yn trafod polisïau tirlenwi a ffyrdd y gallant ddylanwadu ar bolisi a gweithdrefnau yn Abertawe ac yn Siavonga.

Yn ogystal â’r gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, bydd yr wythnos yn gyfle i ddysgu am ddiwylliannau gwahanol a chael ysbrydoliaeth am y ffordd ymlaen.

Am ei hymweliad â Siavonga, meddai Sue Philippart o Ysgol Gynradd St Joseph yn Abertawe:

"Roedd yn brofiad sy’n newid bywydau ac rydym yn hyderus y bydd ein cydweithwyr o Zambia yn cael budd mewn ffordd debyg." 

Mae ysgolion Abertawe a Siavonga sy’n rhan o glwstwr 2019 fel a ganlyn:

  • Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph / Ysgol Gynradd Gatholig Kulishoma
  • Ysgol Gynradd Dyfnant    / Ysgol Gynradd Katalumba
  • Ysgol Uwchradd Pentrehafod / Ysgol Uwchradd Siavonga
  • Ysgol Gynradd yr Hafod / Ysgol Gynradd Kabila
  • Ysgol Uwchradd Treforys  / Ysgol Gyfunedig Kariba
  • Ysgol Gynradd Llwynderw / Ysgol Gynradd Siavonga
  • Ysgol Addysg Arbennig Crug Glas / Uned Addysg Arbennig Siavonga

Mae’r ymweliadau’n deillio o Bartneriaeth Abertawe Siavonga, sef partneriaeth ffurfiol rhwng Gwirfoddoli Myfyrwyr Discovery Abertawe a Grŵp Maeth Siavonga, a sefydlwyd yn 2010 gan Christine Watson MBE.

Ysgol Uwchradd Pentrehafod oedd yr ysgol gyswllt gyntaf ac mae’r bartneriaeth yn parhau i gefnogi’r clwstwr a ariennir gan raglen Cysylltu Dosbarthiadau’r British Council (@BritishCouncil #ConnectingClassrooms ) 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Pentrehafod ddiwrnod o arddangos a dathlu’r gwaith deinamig a wnaed yn yr 14 ysgol, gan atgyfnerthu’r perthnasoedd ar gyfer y dyfodol. Cynhaliwyd parti gyda’r hwyr yn The Hyst, Y Stryd Fawr, Abertawe, gan gynnwys Milz, sef athro o Ysgol Uwchradd Siavonga.

Darganfyddwch fwy am Discovery

Rhannu'r stori