Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Alex (chwith) a Will Carroll-Adams sydd bellach yn astudio meddygaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

Mae’r gefeilliaid unfath, Will ac Alex Carroll-Adams, wedi ailymuno ym Mhrifysgol Abertawe wrth iddynt ddilyn eu huchelgais i fod yn feddygon.

Mae Will yn ei bedwaredd flwyddyn, a’i flwyddyn olaf, o’r cwrs Meddygaeth i Raddedigion ond, erbyn hyn, mae Alex wedi ymuno ag ef wrth iddo gychwyn ar ei astudiaethau.

Sylweddolodd y ddau efell 27 oed eu dyheadau ar gyfer y dyfodol ar ôl iddynt gwblhau graddau nad oeddent yn gysylltiedig â meddygaeth. 

Meddai Will, a gwblhaodd BSc mewn Anthropoleg ym Mhrifysgol Caint yng Nghaergaint: “Roeddwn i wastad wedi edifarhau peidio ag ymgymryd â gradd feddygaeth ac yna, yn ystod fy ngradd, mwynheais i’n fawr anthropoleg fforensig, gan astudio’r sgerbwd a chan archwilio’r esgyrn. 

“Roeddwn i heb sylweddoli y gallai anthropoleg fy arwain at feddygaeth o hyd nes i mi gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau meddygaeth i raddedigion.” 

Wedi hynny, safodd Will, sydd hefyd wedi gweithio fel cynorthwyydd gofal iechyd a gofalwr, Brawf Derbyn yr Ysgol Feddygaeth i Raddedigion (GAMSAT) - sef yr arholiad sy’n asesu addasrwydd myfyrwyr i gwrs Meddygaeth i Raddedigion heb ystyried eu gradd flaenorol -  a llwyddodd ynddo. 

“Cyflwynais i geisiadau i ysgolion meddygol a des i i Abertawe i gael cyfweliad ac roeddwn i’n dwlu ar y lle ar unwaith.Rwyf heb edrych yn ôl ers i mi gael fy nerbyn,” meddai. 

Yn ystod ei amser yn Abertawe, mae ei frawd wedi ymweld ag ef yn gyson ac, yn araf deg, dechreuodd Alex ystyried cerdded yn ôl traed Will. 

“Ar ôl i ni dreulio cymaint o amser yng nghwmni’n gilydd pan oeddem yn tyfu i fyny, ni fwriadom ddod i’r un lle ond, drwy gyd-ddigwyddiad, gwnaethom ein graddau cyntaf yng Nghaergaint – er ein bod mewn prifysgolion gwahanol – a bellach rydym ni’n dau yma yn Abertawe,” meddai Alex, a enillodd radd BA mewn addysg gynradd. 

“Erbyn i mi gwblhau fy ngradd, sylweddolais i nad oeddwn i’n mwynhau  addysgu. Felly, gweithiais i ym myd recriwtio, treuliais beth amser yn teithio a hefyd, gweithiais i fel cynorthwy-ydd gofal iechyd.” 

Ar ôl iddo dreulio amser gyda chleifion a gweld ei frawd yn mwynhau ei astudiaethau ef, penderfynodd Alex ddilyn gyrfa feddygol hefyd. Yn ystod ei ymweliadau cyson ag Abertawe i weld Will, daeth i rai darlithoedd, hyd yn oed, i gael rhagor o wybodaeth am y cwrs wrth iddo baratoi ar gyfer ei GAMSAT ei hun. 

Meddai: “Rwy’n gwybod mai dyma’r hyn rwyf am ei wneud yn awr.Rwy’n ymwybodol o’r ffaith nad oes gennyf yr un cefndir gwyddonol ag sydd gan rai myfyrwyr; fodd bynnag, rwy’n credu y bydd y sgiliau trin pobl rwyf wedi’u datblygu drwy weithio yn y diwydiant yn fy mharatoi ar gyfer ymdrin â chleifion a’u teuluoedd.” 

Dwedodd y ddau frawd fod ymagwedd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe at y cwrs wedi cyfrannu’n sylweddol at eu dewis. 

Meddai Alex: “Cyflwynais i gais i dair ysgol feddygol ond roeddwn i’n gobeithio cael fy nerbyn yma oherwydd Abertawe oedd yn ymddangos fel y lle mwyaf addas i mi. 

“Oherwydd bod fy mrawd yma, roeddwn i’n gallu gweld yr hyn y gall astudio meddygaeth yn Abertawe ei gynnig, ynghyd â’r hyn sydd gan feddygaeth ei hun i’w gynnig.”

Er eu bod bellach yn yr un ddinas, a’u bod nhw’n dau’n frwd am gadw’n heini – yn enwedig ar arfordir penrhyn Gŵyr – ni fydd y gefeilliaid yn gallu treulio llawer o amser gyda’i gilydd ar hyn o bryd. 

Pan fydd Alex yn cychwyn ar ei astudiaethau newydd, bydd Will ar leoliadau amrywiol mewn ysbytai a chlinigau ledled Cymru. 

Ychwanegodd: “Mae gennyf ddiddordeb mewn naill ai oncoleg neu feddygaeth deuluol.Yn bendant, fy mwriad yw aros yng Nghymru ar ôl i mi gymhwyso – rwy’n ystyried Cymru yn gartref  bellach.” 

Meddai Pennaeth Dros Dro Meddygaeth i Raddedigion Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yr Athro Kamila Hawthorne: “Rydym mor falch bod Alex wedi ymuno â’i frawd yma a dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei astudiaethau. 

“Mae Will ac Alex yn enghreifftiau ardderchog o’r fath o fyfyrwyr y mae’n bleser gennym eu cael ar ein cwrs ac maent yn dangos bod mwy nag un ffordd o ddod yn feddyg. 

“Un o’r pethau pwysicaf y gall myfyrwyr meddygol ei ddysgu mewn gwirionedd yw crefft gwrando ar gleifion a gofalu amdanynt a hynny gyda pharch a chydymdeimlad. 

“Mae annog myfyrwyr â phrofiadau bywyd a sgiliau trin pobl gwahanol yn fantais wirioneddol ar ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion.”

 

Rhannu'r stori