Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Jean-Louis Button (canol), myfyriwr y Brifysgol a threfnydd y digwyddiad

Mae myfyrwyr wedi plannu bron 800 o goed newydd ar Fynydd Cilfái yn Abertawe, gyda chymorth gan breswylwyr lleol, sgowtiaid a heddweision, mewn digwyddiad cymunedol a ariannwyd gan y Brifysgol.

Cymerodd oddeutu 150 o bobl ran, gan blannu 784 o goed ar draws pedwar safle ar y mynydd. Dyma fan nodedig sy'n edrych dros ddwyrain y ddinas a cheir erial radio ar frig y mynydd y gellir ei weld o bell. O'r copa, ceir golygfeydd godidog o Fae Abertawe i gyd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Gymdeithas Goed Prifysgol Abertawe, sef grŵp myfyrwyr newydd ei sefydlu.

Roedd yn dathlu Wythnos Genedlaethol Coed a gynhaliwyd ar ddiwedd mis Tachwedd. Ledled y DU, trefnodd cannoedd o gymunedau lleol ddigwyddiadau plannu coed, gan gynyddu nifer y coed ac annog pobl i fentro i'r byd naturiol.

Plannwyd saith rywogaeth wahanol o goed: derw Lloegr a derw digoes, coed cyll, drain gwynion, drain duon, bedw arian a cherddin.

Bydd llu o fanteision o ganlyniad i'r coed newydd – cynyddu bioamrywiaeth, gwella ansawdd yr aer ledled y ddinas ac amsugno allyriadau carbon. Byddant hefyd yn gwella harddwch naturiol yr ardal a'r mannau awyr agored sydd mor bwysig i les corfforol a meddyliol pobl.

Rhoddodd tîm Bywyd Campws Prifysgol Abertawe, sy'n cynnig arian i gefnogi mentrau cymunedol, grant gwerth £250 tuag at y prosiect. Bydd y tîm hefyd yn ariannu parti Nadolig i blant yn Nhwyni Crymlyn, ac mae wedi helpu preswylwyr hŷn i wneud cais am docynnau bws am ddim.

Meddai Jean-Louis Button, myfyriwr y Brifysgol a threfnydd y digwyddiad:

"Ar ôl misoedd o drefnu, daeth yr holl ddarnau at ei gilydd yn y pen draw. Gwnaethom blannu dros 780 o goed gyda chymorth gan oddeutu 150 o breswylwyr lleol, sgowtiaid, myfyrwyr o'r Brifysgol, heddweision a rhai aelodau uwch o Gyngor Dinas Abertawe hefyd!

Talodd y grant gan y Brifysgol am yr offer angenrheidiol i blannu'r coed yn gorfforol, ond hefyd ar gyfer deunyddiau hyfforddi. Roedd hyn yn werthfawr iawn oherwydd sicrhaodd fod y coed yn cael eu plannu gan ddefnyddio'r dulliau cywir. Bydd hyn yn cynyddu nifer y coed ifanc a fydd yn goroesi dros fisoedd y gaeaf.

Yng ngham nesaf y prosiect, byddwn yn gofalu am ein coed ac yn sicrhau eu bod yn parhau'n hapus ac yn iach!"

Dywedodd Elinor Thomas o dîm ymgysylltu â'r gymuned ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae coed yn ased amhrisiadwy i'n dinas a'n planed. Maen nhw'n rhoi aer glanach ac amgylchedd iachach ac maen nhw'n ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Jean-Louis a'r myfyrwyr yn y Gymdeithas Goed a drefnodd y fenter wych hon, gan blannu cannoedd o goed gyda phreswylwyr lleol, gan gynnwys plant. Mae'n fuddsoddiad yn ein cymuned ac yn ein dyfodol, ac roeddem wrth ein boddau'n ei gefnogi."

Rhannu'r stori