Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mam yn ennill brwydr dros ei theulu a gradd yn y gyfraith

Mae mam o Abertawe, a ysbrydolwyd i astudio'r gyfraith gan ei brwydr dros addysg ei mab awtistig, bellach wedi ymrwymo i helpu teuluoedd eraill ar ôl iddi raddio o Brifysgol Abertawe.

Dechreuodd Kate McMurdo, sy'n 37 oed, astudio am radd Meistr yn y Gyfraith ar yr un pryd ag ymdopi â chyfrifoldebau gofalu am ei mab Lewis, sy'n naw oed. Yn ystod y cyfnod hwn, wynebodd frwydr bersonol hefyd am gyfiawnder ynghylch ei addysg.

Roedd hyn ar ôl iddi hi a'i gŵr Alastair, ill dau o Southgate, wynebu cyfres hir o heriau wrth iddynt ymdrechu i ddarparu'r cymorth a'r gofal roedd eu hangen ar Lewis, gartref ac yn yr ysgol.

Roedd gan Lewis nifer o broblemau iechyd hefyd pan oedd Kate yn astudio am ei gradd, gan gynnwys cael ei dderbyn i’r ysbyty yn gynharach eleni oherwydd lefelau ocsigen isel.

"Mae pob dydd yn frwydr os oes gennych chi blentyn anabl," meddai Kate, a gyfnewidiodd yrfa addysgu am y gyfraith.

"Mae'r fiwrocratiaeth rydych yn ei hwynebu'n hunllef ac mae'n golygu bod teuluoedd fel ni dan anfantais ddifrifol. Dwi wedi treulio blynyddoedd yn ennill cyflog isel oherwydd fy nghyfrifoldebau gofalu di-dâl ac mae'n straen.

"Roeddwn i wedi blino cymaint ar yr holl frwydro a'r anghyfiawnder roedd y teulu'n ei wynebu bob dydd, roedd yn sbardun i mi wneud gwahaniaeth ac astudio'r gyfraith fel y gallaf helpu fy nheulu fy hun a theuluoedd tebyg i wireddu eu hawliau a newid y sefyllfa ar gyfer pobl anabl yng Nghymru a'r tu hwnt."

Wrth iddi gyfuno ei hastudiaethau â gofalu am Lewis a magu ei merch tair blwydd oed, Isla, bu'n rhaid i Kate ac Alastair frwydro'r Awdurdod Addysg Lleol dros addysg eu mab.

Roeddent am i Lewis gael lle mewn lleoliad a allai ofalu am ei anghenion cymhleth ac, o’r diwedd, enillon nhw eu brwydr iddo fynychu Canolfan Addysg Gwenllian yng Nghydweli, lle mae bellach yn ffynnu.

"Roedd yn gyfnod gofidus iawn", meddai Kate. "Mae Lewis yn fwy agored i niwed na phlentyn bach oherwydd bod ganddo’r un gallu meddyliol â phlentyn 18 mis oed ond mae mor gyflym ac ystwyth â phlentyn naw mlwydd oed, felly mae ef mewn perygl cyson. Mae ei anableddau dysgu a'i broblemau synhwyraidd yn ddifrifol hefyd.

"Roeddwn i'n teimlo bod y system yn gwahaniaethu yn ein herbyn. Mae gan rieni plant prif ffrwd hawl i ymweld ag ysgolion gwahanol a mynegi dewis, felly dylem ni allu gwneud hynny hefyd.

"Mae Gwenllian wedi bod yn hollol wych ac roedd y diwrnod pan glywais i y byddai’n cael mynd yno'n un o ddiwrnodau hapusaf fy mywyd. Yr ysgol a'i staff yw'r peth gorau sydd wedi digwydd i ni erioed.

"Ers iddo fynychu'r ganolfan, maen nhw wedi ei addysgu i ddechrau dweud ychydig o eiriau ac mae hyd yn oed yn galw 'mama' arnaf nawr sy'n golygu cymaint - arhosais i wyth mlynedd i glywed hynny. Mae'r profiad cyfan wedi trawsnewid ein bywydau"

Er bod ei addysg wedi’i sicrhau, roedd Lewis yn dal i wynebu problemau iechyd ychwanegol a chafodd ei dderbyn i'r ysbyty nifer o weithiau wrth i Kate barhau â'i hastudiaethau.

Collodd hi dri mis o'r brifysgol yn gynharach eleni pan oedd lefelau ocsigen Lewis yn isel.

O ganlyniad, bu Kate yn absennol am gyfnod arholiadau craidd ac felly, bu'n rhaid iddi sefyll naw arholiad mewn 10 niwrnod ym mis Awst. Llwyddodd ym mhob un ohonynt.

"Roeddwn i mor hapus pan ddywedodd fy nhiwtor fy mod i wedi pasio pob un," meddai. Mae'r llawenydd o oroesi'r ddwy flynedd a phasio popeth yn aruthrol. Mae gen i agwedd wahanol bellach at y pethau sy'n wirioneddol bwysig mewn bywyd.

"Ond fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn oll heb gariad a chefnogaeth Alastair. Roedd ganddo ffydd ynof o'r dechrau a helpodd fi i ddyfalbarhau pan oeddwn i'n meddwl fy mod i ar ben fy nhennyn. Ni fyddai dim o'r hyn dwi wedi'i gyflawni wedi bod yn bosib hebddo ef.

Mae angerdd Kate wedi cael ei danio gan y gwahaniaethu mae'n teimlo bod rhieni a phlant ag anableddau yn ei wynebu ym myd addysg.

"Y nod yw dod o hyd i leoliad a fydd yn meithrin ac yn parchu plant ag anawsterau dysgu, er eu mwyn nhw eu hunain, rhywbeth sy’n gallu helpu plentyn i gyflawni ei botensial a ffynnu," meddai.

"Mae'r neges bwysicaf dwi am ei rhannu'n ymwneud â’r diffyg cyllid ar gyfer ysgolion. Ar hyn o bryd, mae'r cyllid ar gyfer ysgolion yn annigonol, felly dyw hyn ddim yn digwydd ac, yn y bôn, mae plant yn cael eu cosbi am ymddygiad sy'n gysylltiedig â'u hanableddau.

"Fy ngham nesaf yw ceisio astudio am PhD. Fyddwn i byth wedi gwneud hyn i gyd heb y sbardun hwnnw a'r cariad sydd gen i fel mam Lewis, sydd yn fy ysgogi i geisio gwneud y byd yn lle gwell a mwy diogel iddo ef ac eraill."

Rhannu'r stori