Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Dysgu yn yr awr agored - blant o Ysgol Crwys

Mae dysgu yn yr awyr agored wedi cael effaith gadarnhaol ar blant a staff mewn ysgol gynradd yn Abertawe, gan roi hwb i les plant a'u hagweddau at ddysgu.

Amlygwyd hyn yn sgil ymwneud ysgol â HAPPEN, sef rhwydwaith o ysgolion cynradd dan arweiniad tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.

Mae'r corff arolygu ysgolion, Estyn, newydd gyflwyno adroddiad ar yr ysgol – Ysgol Gynradd Crwys – a dyfarnu bod lles ac agweddau at ddysgu yn rhagorol, gan nodi ymrwymiad yr ysgol i ddysgu yn yr awyr agored yn enghraifft i ysgolion eraill yng Nghymru ei dilyn.

Mae HAPPEN yn rhwydwaith o ysgolion cynradd dan arweiniad arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe ym meysydd iechyd y cyhoedd, lles a ffitrwydd corfforol a'i nod yw gwella iechyd a lles plant yng Nghymru. Yn ôl ymchwil, mae plant iachach a hapusach yn gwneud yn well yn yr ysgol, a bod addysg yn benderfynyn pwysig o ran iechyd yn y dyfodol.

Mae tîm HAPPEN wedi bod yn gweithio gyda nifer o ysgolion ledled Cymru. Roedd Ysgol Gynradd Crwys yn y Crwys, Abertawe, yn un o'r ysgolion a oedd yn rhan o ymchwil HAPPEN ar ddysgu yn yr awyr agored. Mae Crwys yn ysgol fach o oddeutu 145 o ddisgyblion. Nid oes gan yr ysgol fannau gwyrdd ei hun ond mae'n defnyddio coetir gerllaw. 

Mae'r holl ddisgyblion yn Ysgol Crwys yn treulio o leiaf hanner diwrnod yn y coetir yn mwynhau'r awyr agored ardderchog bob wythnos drwy gydol y flwyddyn. Maen nhw'n mynd â'r cwricwlwm y tu allan, gan fwynhau gwersi megis gwyddoniaeth, celf a mathemateg (yn y llun).

Cynhaliodd tîm HAPPEN gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda disgyblion a staff, a gweld bod:

  • lles disgyblion a'u mwynhad o'r ysgol a'u hagweddau at ddysgu oll wedi gwella
  • Roedd hefyd effaith gadarnhaol ar les staff, gydag athrawon yn nodi eu bod yn mwynhau eu swyddi'n fwy: dywedodd un mai "dyma'r rheswm yn union y dechreuais addysgu."

Mae'r canfyddiadau'n amserol ac yn berthnasol yn fyd-eang oherwydd bod cyfleoedd i blant fanteisio ar yr amgylchedd naturiol yn diflannu. Mae plant yn treulio llai o amser yn yr awyr agored oherwydd pryderon ynghylch diogelwch, traffig, trosedd a gofidion rhieni. Mae amgylcheddau modern wedi lleihau faint o fannau gwyrdd agored sydd ar gael hefyd, tra bo technoleg wedi cynyddu faint o amser mae plant yn ei dreulio'n eistedd.

Dywedodd adroddiad Estyn ar Ysgol Gynradd Crwys:

"Mae dysgu yn yr awyr agored wedi cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion a'u hagweddau at ddysgu. Mae presenoldeb yr ysgol wedi codi yn ogystal â'i safonau academaidd.

"Mae staff yr ysgol yn falch o gefnogi manteision dysgu yn yr awyr agored ar les disgyblion. Maen nhw wedi gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe ar brosiect sydd wedi profi bod dysgu yn yr awyr agored yn gwella iechyd a lles disgyblion" 

Meddai Emily Marchant o  dîm HAPPEN ym Mhrifysgol Abertawe a arweiniodd yr ymchwil am ddysgu yn yr awyr agored:

"Mae ein canfyddiadau yn ychwanegu at y dystiolaeth bod awr neu ddwy yn unig o ddysgu yn yr awyr agored bob wythnos yn ennyn diddordeb plant, yn gwella eu lles ac yn cynyddu boddhad athrawon â'u swyddi.

Nid gwersi o fewn pedair wal ystafell ddosbarth yw addysg yn unig. Mae'r amgylchedd yn yr awyr agored yn annog sgiliau megis datrys problemau a thrafod risgiau sy'n bwysig i ddatblygiad plentyn.

Os ydym am i'n plant gael cyfleoedd lle "nad ydych yn teimlo eich bod yn dysgu go iawn, eich bod yn teimlo eich bod ar antur" ac athrawon i "fod y bobl hynny rydym ni, nid robotiaid yr oedd yn teimlo y dylem fod," mae angen i ni newid y ffordd rydym yn ystyried gwersi yn yr ysgol.

Mae Ysgol Gynradd Crwys ar flaen y gad yng Nghymru, fel y mae Estyn wedi'i nodi. Byddem yn croesawu ysgolion eraill yng Nghymru i ymuno â’n rhwydwaith HAPPEN am ddim, fel eu bod nhw hefyd yn gallu gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu hysgol i wneud eu disgyblion yn iachach ac yn hapusach."

Darllenwch yr ymchwil

Rhannu'r stori