Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Silwét o grŵp o bobl sy’n cyfleu ymchwil y gymdeithas sifil a fydd yn elwa o’r cyllid.

Mae cydweithrediad ymchwil arloesol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe wedi ennill hwb ariannol gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn un o bedair canolfan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU sydd wedi llwyddo yng nghystadleuaeth hynod gystadleuol Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Bydd WISERD yn cael £6.3 miliwn fel ail-fuddsoddiad i barhad ei hymchwil ar gymdeithas sifil – y trydydd tro i gyllid sylweddol gael ei ddyfarnu yn hanes ei deng mlynedd.

Bydd Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD yn adeiladu ar yr holl weithgareddau ymchwil WISERD blaenorol i gynnal rhaglen ymchwil pum mlynedd uchelgeisiol yn canolbwyntio ar y cysyniad o newid safbwyntiau ar haeniad dinesig ac atgyweirio sifil.

Nod y rhaglen newydd yw trawsnewid ein dealltwriaeth o sut mae ffurfiau o allgau ac ehangu dinesig, a cholledion ac enillion dinesig, yn effeithio ar gymdeithas sifil – a sut mae cymdeithas sifil yn ymateb ac yn cyfrannu at hyn, a’r potensial i sefydliadau cymdeithas sifil chwarae rôl allweddol o ran trwsio cyfansoddiad bywyd dinesig.

Drwy gynhyrchu tystiolaeth a dadansoddiad empirig newydd, bydd y rhaglen yn effeithio ar bolisi ac ymarfer cymdeithasol. Bydd yn mynd i’r afael â nifer o’r prif heriau sy’n wynebu cymdeithas, fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, polareiddio ac ymddieithrio gwleidyddol, mudo ac amlddiwylliannedd, deinameg newidiol gwaith a’r economi ‘gig’, ac effaith arloesiadau technolegol newydd.

Er mwyn gwireddu’r rhaglen ymchwil uchelgeisiol a rhyngddisgyblaethol hon, bydd WISERD yn manteisio ar arbenigedd ac arloesedd ar draws ei brifysgolion partner yn Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a De Cymru. Bydd partneriaethau â phrifysgolion eraill yn y DU a ledled y byd hefyd yn chwarae rôl bwysig.  Bydd meysydd sgiliau a gwybodaeth allweddol yn cynnwys ymchwil gymharol ryngwladol, dylunio a dadansoddi ymchwil hydredol, ymchwil ethnograffig ac arsylwi, astudiaethau achos estynedig a dulliau ymchwil cyfranogol. Bydd seilwaith data ac integreiddio data hefyd yn ffocws yn y rhaglen newydd.

Meddai’r Prif Ymchwilydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Ian Rees Jones:

“Mae hon yn garreg filltir bwysig i WISERD. Un o’n prif gryfderau yw’r gallu i gynnal ymchwil ar y cyd gyda phartneriaid cymdeithas sifil, fel elusennau a’n cymunedau lleol. Mae’r wobr hon yn rhoi’r cyfle i ni gryfhau’r partneriaethau a’r rhwydweithiau hyn ymhellach, yn y DU ac yn rhyngwladol, a chyflawni rhaglen cyfnewid gwybodaeth gyffrous a hygyrch dros y pum mlynedd nesaf. Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at barhau i ehangu capasiti ymchwil gwyddorau cymdeithasol a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr ymchwil y dyfodol.”

Meddai’r Athro Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol ESRC:

“Rydym ni ar ben ein digon i gyhoeddi’r cyllid ar gyfer y pedair canolfan hyn, sy’n dangos ehangder rhagoriaeth gwyddorau cymdeithasol yn y DU. Mae’n galonogol gweld y canolfannau ESRC presennol yn parhau i adeiladu ar gorff dirfawr o waith.”

Meddai Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU, yr Athro Syr Mark Walport:

 “Mae’r pedair canolfan hyn yn cynrychioli buddsoddiadau sylweddol ar draws y tirlun ymchwil gwyddorau cymdeithasol. Byddant yn chwarae rhan bwysig o ran cynnal safle rhyngwladol y DU ar flaen y gad gydag ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.”

Bydd y Ganolfan Cymdeithas Sifil WISERD newydd yn dechrau ym mis Hydref eleni ac yn parhau hyd 2024.

 

Rhannu'r stori