Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Morwellt.

Bydd prosiect peilot newydd yng Nghymru i adfer cynefin morol pwysig yn arwain y ffordd i filiwn o hadau gael eu hau yn y cynllun mwyaf i adfer morwellt yn y Deyrnas Unedig erioed.

Mae morwellt yn dal carbon yn gyflymach na choedwigoedd glaw – a gallai fod yn ased gwerthfawr iawn wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ecolegol. Mae Sky Ocean Rescue, y sefydliad cadwraethol blaenllaw WWF a Phrifysgol Abertawe yn lansio’r prosiect i adfer morwellt, er mwyn helpu’r cynefin pwysig hwn i ffynnu unwaith yn rhagor.  

Bydd y prosiect peilot arloesol hwn yn creu model a allai arwain y ffordd ar gyfer prosiectau mawr i adfer morwellt ledled y Deyrnas Unedig pe câi ei fabwysiadu gan lywodraethau’r Deyrnas Unedig. Yn yr haf eleni, casglwyd miliwn o hadau o’r dolydd presennol o amgylch Ynysoedd Prydain, gan gynnwys ym Mhorth Dinllaen ar Benrhyn Llŷn, gan grŵp o wirfoddolwyr dan arweiniad Prifysgol Abertawe. Aethpwyd at y morwellt, sy’n tyfu mewn mannau cysgodol â dŵr bas ar hyd yr arfordir, trwy snorcelu, plymio a cherdded trwy dŵr. Torrwyd y gwellt â’r hadau arnyn nhw i ffwrdd - heb achosi unrhyw ddifrod i’r planhigyn – ac wedyn aethpwyd â nhw i labordai ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, maen nhw’n cael eu didoli a’u paratoi yn unol â dull a arloeswyd gan y Brifysgol.Caiff yr hadau eu rhoi mewn bagiau hesian er mwyn eu clymu i lawr pan fyddan nhw’n cael eu plannu ar wely’r môr y gaeaf hwn, ar safle ym Mae Dale, Sir Benfro. Yn y gorffennol mae’r ardal hon wedi colli morwellt, ond mae ganddi’r nodweddion iawn o ran dyfnder y dŵr a golau digonol i’r planhigyn oroesi.

Gyda chymorth cymunedau lleol, nod Seagrass Ocean Rescue yw adfer 20,000 m2 o’r planhigyn morol hwn yng ngorllewin Cymru, ar ôl i hyd at 92 y cant o forwellt y Deyrnas Unedig ddiflannu yn y ganrif ddiwethaf. Mae’r dirywiad enfawr wedi cael ei achosi gan lygredd, dŵr ffo o’r tir, datblygiadau ar yr arfordir a difrod gan sgriwiau gyrru a chadwyni angori cychod. Mae morwellt yn blanhigyn blodeuol morol sy’n dal carbon o’r atmosffer hyd at 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol, gan olygu ei fod yn arf allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn aml mae’n tyfu mewn dolydd tanddwr mawr, sy’n amsugno carbon deuocsid ac yn gollwng ocsigen. Wrth i’r tannau barhau i anrheithio coedwig law yr Amason - sef y ddalfa garbon dirol fwyaf ar y blaned – mae rôl y moroedd wrth atal newid hinsawdd yn dod yn bwysicach byth.

Dywedodd Alec Taylor, Pennaeth Polisi Morol WWF: “Mae morwellt yn blanhigyn arbennig nad yw’n cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu, felly mae’r dirywiad sydyn yn destun pryder mawr. Heb forwellt, gallai’r myrdd o rywogaethau anhygoel sy’n dibynnu arno ddiflannu, bydd effaith ar y bwyd a fwytawn a bydd maint y carbon yn yr amgylchedd yn cynyddu.

“Ochr yn ochr â Sky Ocean Rescue a Phrifysgol Abertawe, rydyn ni’n galw ar lywodraethau i ddefnyddio’r model mae ein prosiect yn ei greu i adfer y dolydd tanddwr ffrwythlon hyn. Mae hefyd angen i lywodraethau weithio gyda chymunedau lleol i sicrhau y caiff y mannau hollbwysig hyn eu rheoli’n dda. Gall y Deyrnas Unedig arwain y byd yn y gwaith o adfer iechyd y moroedd a brwydro yn erbyn newid hinsawdd, os yw’n defnyddio’r datrysiadau mae natur yn eu darparu.”

Mae Sky Ocean Rescue (ymgyrch Sky i wella iechyd y moroedd, lleihau ein defnydd o blastigau ac ysbrydoli miliynau o bobl i wneud newidiadau), WWF a Phrifysgol Abertawe wedi dod ynghyd i weithio ar y prosiect hwn oherwydd bod morwellt yn hanfodol i’n moroedd ac y gall helpu i ddatrys rhai o broblemau amgylcheddol mwyaf y byd:

● Yn fyd-eang, mae morwellt yn gyfrifol am 10% o’r carbon a ddelir gan y moroedd, er mai dim ond 0.2% o wely’r môr mae’n ei gorchuddio

● Mae’n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, gan weithredu fel meithrinfa i amrywiaeth fawr o fywyd morol, o forfeirch sydd mewn perygl i falwod môr lliwgar. Gall 10,000 m2 o forwellt gynnal 80,000 o bysgod a 100 miliwn o infertebratau.

● Mae’n gynefin hollbwysig i lawer o’r pysgod a fwytawn fel y penfras, y lleden a’r morlas

● Mae’n helpu i warchod ein harfordiroedd rhag erydiad trwy amsugno egni’r tonnau 

● Mae’n cynhyrchu ocsigen 

● Mae’n helpu i lanhau’r moroedd trwy amsugno maetholion llygru a gynhyrchir gan bobl ar y tir 

Dywedodd Dr Richard Unsworth, Prifysgol Abertawe, cyfarwyddwr yr elusen gadwraethol Project Seagrass a biolegydd arweiniol y prosiect: “Os ydym ni eisiau rhoi i’n pysgodfeydd a’n harfordiroedd y potensial i ymaddasu i hinsawdd sy’n newid yn gyflym, mae angen inni adfer y cynefinoedd a’r fioamrywiaeth sy’n eu gwneud yn gynhyrchiol. Bydd arddangos y potensial i’r gwaith o adfer ein hamgylchedd morol fod yn ystyrlon, gobeithiwn, yn gatalydd ar gyfer adferiad pellach moroedd y Deyrnas Unedig.”

Mae prosiect Seagrass Ocean Rescue yn golygu gweithio gyda chymunedau lleol yng ngorllewin Cymru i gynllunio’r prosiect. Nod arall gan y gwaith yw hyrwyddo dealltwriaeth o bwysigrwydd morwellt a’r buddion posibl y gall eu creu i’r ardal. Yn ogystal â chynnal cynnydd mewn pysgod, crancod a berdys, a fydd o fudd i bysgotwyr, mae’n debygol y bydd y dŵr yn y mannau lle mae’r morwellt yn tyfu yn gliriach, gan hybu gweithgareddau chwaraeon dŵr yn lleol. Nod y gwaith yw dangos sut y gall cymunedau a chadwraeth weithio mewn cytgord.

Rhannu'r stori