Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae'r llun brig yn dangos cyfartaledd canrannau pleidleisio dros Adael yn Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2016. Datgelodd y dadansoddiad fod nodweddion pleidleiswyr Gadael yn hynod astud, gyda phleidleiswyr Aros wedi'u dryllio.

Mae astudiaeth ryngddisgyblaethol newydd gan fathemategwyr ac academyddion economeg ym Mhrifysgol Abertawe o refferendwm Brexit yn 2016 wedi dangos bod cefnogaeth yr ymgyrch dros adael wedi dod o ddemograffeg llawer mwy tebyg na'r ymgyrch dros aros, a allai fod â goblygiadau i'r ymgyrchwyr dros adael wrth ennill pleidleisiau i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Gan ddefnyddio ymagwedd gwyddor data arloesol newydd ar gyfer delweddu a dadansoddi setiau data cymhleth, mae Dr Pawel Dlotko a Dr Simon Rudkin o Brifysgol Abertawe, ar y cyd â Wanling Qiu o Brifysgol Lerpwl, yn taflu goleuni newydd ar ganlyniad refferendwm Brexit 2016 a'r rhesymau pam na ragfynegodd y rhan fwyaf o ddulliau ystadegol dibynadwy traddodiadol y canlyniad.

Tan nawr, mae ymchwilwyr a dadansoddwyr wedi defnyddio dulliau ystadegol traddodiadol i ddod i'w casgliadau empeiraidd a gwneud rhagfynegiadau. Mae'r perthnasoedd cymhleth yn nhirwedd wleidyddol gyfoes Prydain, fodd bynnag, yn galw am ddulliau newydd sy'n caniatáu ar gyfer mesur canlyniadau pleidleisio a rhagfynegi'n fwy dibynadwy ac sy'n dal unrhyw anghysondebau'n fwy cywir.

Mewn ymateb, mae Dr Dlotko wedi creu Mapiwr Pêl Dadansoddiad Data Topolegol (TDA) – algorithm sy'n creu graffiau lle gellir deall patrymau'r data yn hawdd ac y gellir cynrychioli pob cyfuniad o newidion wrth sicrhau y gellir adnabod anomaleddau yn glir. Mae'n defnyddio egwyddorion sylfaenol disgyblaeth fathemategol topoleg.

Meddai Dr Rudkin: "Defnyddiom y Mapiwr Pêl TDA i archwilio canlyniad refferendwm Brexit 2016 a'i esbonio gan ddefnyddio nodweddion demograffig, megis cyfansoddiad a deiliadaeth y cartref, y nifer o geir yn y cartref, statws cymdeithasol, cymwysterau addysgol, hunanadrodd ar iechyd, a lefelau amddifadedd. Datgelodd y dadansoddiad fod nodweddion pleidleiswyr Gadael yn hynod astud, gyda phleidleiswyr Aros wedi'u dryllio.”

Dadansoddodd y tîm ymchwil hefyd ganlyniadau etholiad 2017 gan ddefnyddio'r Mapiwr Pêl TDA. Cafwyd bod llwyddiannau mwyaf y Blaid Lafur yn yr etholaethau a ffurfiodd yr ardaloedd a bleidleisiodd o blaid Aros, sef etholaethau Llundain a'r rhai â phoblogaeth uchel o fyfyrwyr yn bennaf. I ennill yr etholiad, fodd bynnag, roedd angen cefnogaeth arnynt yn yr etholaethau a oedd o blaid Brexit. Yn y gorffennol, yr ardaloedd hyn oedd cadarnleoedd Llafur, ac maent yn debygol o fod yn ganolbwynt yn yr etholiad nesaf.

Roedd pethau'n llawer mwy clir i'r Ceidwadwyr yn etholiad 2017. Drwy fapio'r canlyniadau, cafodd yr ymchwilwyr fod cynnal eu cefnogwyr craidd ac ennill poblogrwydd yn ardaloedd Llafur a oedd o blaid Brexit yn ddigon i ennill etholiad.

Meddai Dr Dlotko: "Mae'r Mapiwr Pêl TDA newydd yn gam sylweddol ymlaen am ei fod yn darparu methodoleg y gellir ei defnyddio unrhyw le, a gall ein helpu i ddeall llawer o setiau data cymhleth lle bynnag y bo data i'w plotio."

Darllenwch yr astudiaeth yma

Mae'r llun brig yn dangos cyfartaledd canrannau pleidleisio dros Adael yn Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2016. Datgelodd y dadansoddiad fod nodweddion pleidleiswyr Gadael yn hynod astud, gyda phleidleiswyr Aros wedi'u dryllio.

 

Rhannu'r stori