Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Academyddion yn galw am fonitro cyffuriau strwythuredig mewn cartrefi gofal

Mae academyddion Prifysgol Abertawe yn galw ar wneuthurwyr polisi, rheolyddion a phobl broffesiynol gofal iechyd i fabwysiadu cyfundrefn fonitro meddyginiaethau strwythuredig ar ôl i ymchwil ddangos effaith bositif ar ofal pobl hŷn yn byw mewn cartrefi gofal ac yn cymryd moddion iechyd meddwl.

Mae academyddion Prifysgol Abertawe yn galw ar wneuthurwyr polisi, rheolyddion a phobl broffesiynol gofal iechyd i fabwysiadu cyfundrefn fonitro meddyginiaethau strwythuredig ar ôl i ymchwil ddangos effaith bositif ar ofal pobl hŷn yn byw mewn cartrefi gofal ac yn cymryd moddion iechyd meddwl.

Yr Athro Sue Jordan o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe wnaeth arwain ar yr ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi yng nghylchgrawn PLOS ONE. Fe wnaeth yr astudiaeth ddangos sut caiff sgiliau effeithiau niweidiol gan breswylwyr cartrefi gofal eu nodi’n fwy effeithiol gan eu nyrsys a’u gofalwyr pan gafodd cyfundrefn fonitro strwythuredig ei ddefnyddio ochr yn ochr â gweiniad meddygaeth iechyd meddwl.

Mae’r gor -ddefnydd o foddion iechyd meddwl mewn cartrefi gofal eisoes wedi bod yn achos o bryder, a monitro annigonol claf wedi bod yn achos pwysig o niweidiau’n ymwneud â meddyginiaethau.

Archwiliodd yr astudiaeth newydd cyfundrefn fonitro meddyginiaeth a arweiniwyd gan nyrsys a adnabyddir fel Proffil Monitro Meddyginiaethau mewn Iechyd Meddwl / Adverse Drug Reaction (ADRe) sy’n adnabod ac yn mynd i’r afael ag effeithiau anffafriol y gall meddyginiaethau iechyd meddwl eu cael ar gleifion.

Gweithiodd yr astudiaeth yma gyda 10 cartref gofal a oedd yn gofalu am bobl wedi eu rhagnodi â meddyginiaethau iechyd meddwl i archwilio:

  • Effaith clinigol o ADRe.
  • Sut mae sicrhau’r drefn a’r defnydd parhaol o ADRe mewn cartrefi gofal.
  • Sut efallai y gallai ADRe wella adolygiadau meddyiniaethau fferyllwyr.

Fe wnaeth yr astudiaeth ddangos bod nyrsys sy’n defnyddio ADRe ddarganfod materion ac o ganlyniad newidwyd gofal nyrsio ar gyfer 27 o’r 30 preswyliwr ac adolygwyd meddyginiaeth ar gyfer 17 claf.

Darganfyddiadau allweddol eraill oedd bod nyrsys a oedd yn defnyddio ADRe yn gweld bod:

  • Meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu lleihau.
  • Adnabuwyd bod wyth o’r 30 preswylydd mewn poen, a bod ADRe yn helpu datrys hyn e.e. drwy argymell adolygiad o gyffuriau lleddfu poen.
  • Roedd chwech o’r 30 preswylydd yn fyr o anadl ac fe’u cyfeiriwyd am adolygiad meddyginiaeth
  • Newidiwyd cynlluniau ar gyfer pump o’r naw preswylydd a oedd wedi syrthio.
  • Roedd preswylwyr yn fwy ‘bywiog’ neu’n llai cynhyrfus neu’n llai ymosodgar pan wnaeth gofal newid i leihau meddyginiaethau gwrthseicotig.

Bu'r tîm ymchwil hefyd yn cyfweld â phobl allweddol fel rhagnodwyr, fferyllwyr, nyrsys a staff gofal yn y cartrefi, preswylwyr, defnyddwyr gwasanaeth a pherthnasau yn ogystal â llunwyr polisi ac arolygydd cartrefi gofal. Roedd yr ymatebion yn ffafriol ar y cyfan, oherwydd heb ADRe gallai problemau y gellir eu trin cael eu gadael heb oruchwyliaeth, ond dywedodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod gofynion amser, tan-staffio a gwaith yn rhwystrau posibl i ddefnyddio ADRe yn rheolaidd. Fodd bynnag, dywedodd cleifion a defnyddwyr gwasanaeth fod angen monitro parhaus i osgoi pobl rhag mynd yn sâl, eu cyflyrau'n dirywio, camgymeriadau'n cael eu gwneud neu wybodaeth werthfawr am gyflwr claf ddim yn cael ei chasglu.

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad, pan ddefnyddir ADRe fel mater o drefn, ei fod yn gwella bywydau cleifion, yn helpu i nodi problemau'n gyflym, ac yn arwain at well adolygiadau gofal a meddyginiaeth. Mae hefyd yn dangos, wrth i ADRe gofno golyga’di rhestr ac arwyddion a symptomau rhestr yn llawn, ei bod yn gwneud adolygiadau gan fferyllwyr yn haws ac yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwell wrth newid, lleihau neu atal meddyginiaethau.

Dywedodd yr Athro Sue Jordan: “Mae ein hastudiaeth yn dangos sut mae gwirio cleifion am arwyddion a symptomau adweithiau niweidiol cyffuriau yn gwella bywydau’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Dengys hefyd bod dod â safbwyntiau cleifion i optimeiddio meddyginiaethau’n gymhleth, a golyga’r cymhlethdod go iawn y gall gweithwyr proffesiynol gilio oddi wrth y dasg hon a allai fod yn anodd. Dylai’r effaith gadarnhaol ar fywydau cleifion berswadio rheolwyr, arweinwyr gwasanaeth a datblygwyr canllaw i fabwysiadu ADRe - wedi’r cyfan pwy fyddai ddim am gael eu gwirio am boen, diffyg anadl, llonyddiad a chryndod?”

Meddai Timothy Banner, fferyllydd astudio: “Mae angen ADRe i fodloni argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer optimeiddio meddyginiaethau Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal, ac mae angen i'r canfyddiadau hyn gael eu gweithredu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi a rheoleiddwyr sector i sicrhau diogelwch cleifion a lleihau unrhyw niwed a achosir trwy sgîl-effeithiau niweidiol.”

Meddai Dr. Jeff Round, iechyd economaidd: “Dengys yr astudiaeth hon sut y gall teclyn syml a rhad yma mewn gofal arferol leihau sgîl-effeithiau niweidiol y gellir eu hatal. Mae goblygiadau sylweddol o ran adnoddau a chost o fethu â mynd i’r afael â’r broblem.”

Rhannu'r stori