Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae Tom a Michael wedi lansio app a fydd yn helpu i adfywio’r stryd fawr

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi lansio ap a fydd yn caniatáu i bobl gael gostyngiadau arbennig yn Abertawe ac, yn ei dro, helpu elusennau a busnesau annibynnol lleol.

Bydd yr ap ffôn clyfar yn caniatáu i bobl gael gostyngiadau arbennig mewn siopau, bariau, bwytai, siopau trin gwallt, caffis a champfeydd annibynnol, gan helpu i gynyddu arian ar gyfer elusennau ar yr un pryd.

Tom Robertson a Michael Loney, ill dau'n 21 oed, yw cyd-sefydlwyr GAIN, a dechreuodd y ddau weithio ar yr ap wrth astudio Daearyddiaeth Ddynol a Chyfrifiadureg, yn y drefn honno. Daethant i sylweddoli bod llawer o siopau a busnesau ledled y ddinas yn dawel iawn ar adegau, yn enwedig rhwng dydd Llun a dydd Iau. Ond, byddent yn codi'r un prisiau.

"Beth rydym ni'n ei wneud yw creu lefel ychwanegol o alw am y siopau annibynnol gwych yn Abertawe, meddai Tom.

"Rydym yn cynyddu ymwelwyr â'u lleoliadau ac yn arbed ychydig o arian i gwsmeriaid ar yr un pryd.

"Os yw siopau a busnesau annibynnol am hysbysebu cynnig arbennig, maen nhw'n ysgrifennu'r manylion ar fwrdd ac yn ei osod ar y stryd. Yr unig bobl sy'n gweld hwn yw'r rhai sy'n cerdded  heibio'r lleoliad. Mantais GAIN yw y gallwn roi'r cynnig ar-lein i gael ei weld gan ein miloedd o ddefnyddwyr.

"Mae'r wybodaeth honno'n cael ei theilwra ar sail lleoliad, felly bydd cwsmeriaid a allai fod ychydig o strydoedd i ffwrdd yn ymwybodol iawn o'r cynigion."

Fodd bynnag, nid busnesau lleol a chwsmeriaid yw'r unig rai a fydd yn elwa o GAIN.

Pryd bynnag y bydd cwsmer yn manteisio ar gynnig arbennig, bydd yr ap yn caniatáu i'r defnyddiwr ddewis elusen ranbarthol i elwa. Daw'r arian hwn o'r comisiwn y mae GAIN yn ei greu eisoes drwy ddod â chwsmeriaid ychwanegol drwy'r drws, felly does dim cost ychwanegol i'r busnes na'r cwsmer ac mae'r arian yn mynd yn uniongyrchol at elusen leol.

"Nod yr ap yw ceisio hyrwyddo busnesau bach, yn ogystal ag elusennau bach, gan roi rhywbeth yn ôl i'r rhai sy’n llai ffodus na ni a chadw ein harian yn yr economi leol," meddai Michael.

Dywed y pâr y cawsant eu hysgogi i geisio newid sefyllfa'r economi leol ar ôl clywed mai

14% yn unig o'r arian mae pobl yn ei wario mewn siopau cadwyn sy’n cael ei ail-gylchredeg yn yr economi leol, o'i gymharu â chanran enfawr, sef 48%, mewn siopau annibynnol.

Mae GAIN wedi derbyn cymorth gan Brifysgol Abertawe ar ffurf mynediad i weithfannau yn Hyb Deori'r Myfyrwyr ar Gampws Parc Singleton a chymorth gan y Tîm Mentergarwch.

Mae mwy o wybodaeth ar gael am yr ap yn www.gainapp.co.uk a gallwch eu dilyn yn y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio @thegainapp. Gallwch ei lawrlwytho am ddim o'r storfeydd apiau ac android ac mae gostyngiadau eisoes ar gael mewn dros 20 o leoliadau yn Abertawe.

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch mentergarwch myfyrwyr ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori