Abaty Singleton

Yn dilyn sylwadau a wnaed yn y cyfryngau a chan bobl eraill, mae'r datganiad canlynol gan Brifysgol Abertawe'n rhoi crynodeb ffeithiol o'r materion sy'n gysylltiedig â'i hymchwiliad mewnol ac ymchwiliad yr heddlu.

Mae'r heddlu wedi rhoi cadarnhad i Brifysgol Abertawe fod tystiolaeth o droseddu posib wedi cael ei nodi a'i sicrhau yn erbyn unigolion a chwmnïau a fu'n destun yr ymchwiliad. Fe'i cyflwynwyd fel rhan o'r ffeil tystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron.

Meddai'r Ditectif Brif Uwch-arolygydd Steve Corcoran, Pennaeth Gwasanaethau Amddiffyn Cymru: “Roedd tystiolaeth o droseddu posib wedi cael ei nodi a'i sicrhau yn erbyn unigolion a chwmnïau a fu’n destun yr ymchwiliad hwn ac fe'i cyflwynwyd fel rhan o'r ffeil tystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, a benderfynodd yn sgil hynny na fyddai er budd y cyhoedd i erlyn unrhyw un.” 

Roedd penderfyniad y brifysgol i ddiswyddo Marc Clement yn seiliedig ar dramgwyddo gweithdrefnau Prifysgol Abertawe, a hynny'n ddifrifol, ac nid oedd yn ddibynnol ar unrhyw adeg ar ymchwiliad troseddol gan yr heddlu na phenderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron i'w erlyn. Diswyddwyd Marc Clement am feddu ar wrthdrawiad buddiannau difrifol ac am fethu â'i ddatgan i'r brifysgol. Ynghyd â nifer o bobl eraill, byddai Marc Clement wedi derbyn swm sylweddol o arian yn bersonol drwy gyfran ecwiti sylweddol yn y cwmni Sterling Health, a fyddai wedi bod yn berchen ar y cyd ar fenter y Pentref Llesiant, ynghyd â chael cyflogaeth yn y cwmni. Roedd Marc Clement yn disgwyl derbyn cyfran fwy o lawer nag y byddai'r brifysgol – ei gyflogwr – wedi ei derbyn fel partner yn y fenter. Cyfaddefodd Marc Clement ei fod yn disgwyl derbyn y gyfran ecwiti sylweddol hon yn ystod yr ymchwiliad.

Roedd y brifysgol yn sicr ar y pryd mai'r cam gweithredu cywir oedd diswyddo Marc Clement am fod ganddo’r buddiant ariannol sylweddol hwn nas datganwyd – ac y gwnaeth ef gyfaddef bod y buddiant ganddo – ac mae'n dal i fod yn gwbl sicr ei bod wedi cymryd y cam gweithredu cywir. Er bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu na fyddai er budd y cyhoedd i erlyn yr achos hwn, mae'n amlwg y caiff y dystiolaeth a gasglwyd gan y brifysgol ei datgelu yn ystod y tribiwnlys cyflogaeth, a gynhelir yn gyhoeddus, pe bai'r unigolion am fynd â'r achos rhagddo.

Rhannu'r stori