A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.
Professor Tudur Hallam

Yr Athro Tudur Hallam

Cadair yn y Gymraeg, Cymraeg

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - 169
Llawr Cyntaf
Adeilad Talbot
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Tudur Hallam yw Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n Brifardd, yn Gymrawd Fulbright ac yn aelod o fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Ef yw Cadeirydd Cymeithas Astudiaethau’r Gymraeg ac mae’n aelod o fwrdd gweithredu’r Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol ym maes Astudiaethau Celtaidd dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Ymunodd ag Adran y Gymraeg, Abertawe yn 1999. Fe’i penodwyd i Gadair y Gymraeg yn 2011. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn eang, a hynny’n rhannol gan iddo ddechrau dysgu yn yr Adran ym maes cymdeithaseg iaith a chyfieithu, ond mae bellach yn dysgu modiwlau llenyddol ac ysgrifennu creadigol.

Mae’n enedigol o Benybanc, pentref ar gyrion Rhydaman/Ammanford, ac mae’r profiad o gael ei fagu yno rhwng dwy iaith yn greiddiol i’w holl waith. Meddai yn un o’i gerddi:

Mae’n ffaith fod ’na Ammanfo’d,

a honno’n dre reit hynod;

eto gwn na wyddwn i

yn uniaith ddim amdani.

Yn Rhydaman y’m ganed.

Hi’n llwyr yw fy hyd a’m lled.

Mae diwylliant y Gymraeg a’i hyrwyddo o’r pwys mwyaf iddo. Mae ganddo deulu yn Y Felinheli ac yn Nhredegar, ac mae’r syniad o ‘Gymru’n un’, chwedl y bardd Waldo Williams, yn un real iawn iddo.

Yn 2016-2017, cafodd gyfle i fyw a gweithio yn UDA, ac mae’r elfen gymharol – cymharu diwylliant Cymru ag eiddo gwledydd eraill – yn hydreiddio ei waith.

Wedi cyfnodau o fyw yn Aberystwyth, Abertawe a Houston yn fwy diweddar, mae’n byw gyda’i deulu yn Foelgastell, Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd. Yn lleol, mae’n llywodraethwr ysgol ac yn rhan o dîm hyfforddi pêl-droed i blant a phobl ifanc yng Nghwm Gwendraeth.

Meysydd Arbenigedd

  • llenyddiaeth Gymraeg
  • barddoneg
  • ysgrifennu creadigol
  • drama
  • cynllunio ieithyddol
  • cyfieithu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Yn ystod ei ugain mlynedd yn Abertawe, mae’r Athro Hallam wedi creu a dysgu pob math o fodiwlau i fyfyrwyr ym maes cyfieithu, dwyieithrwydd ymarferol, hanes Cymru a’r Gymraeg, llenyddiaeth, drama ac ysgrifennu creadigol.

Yn 2018, cyhoeddwyd ei werslyfr i fyfyrwyr, Llawlyfr Meistroli’r Gymraeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=3905~4r~SBdFPxeY

Mae’n rhan o dîm egnïol o staff dysgu yn Adran y Gymraeg. Yn 2020, cyhoeddodd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr mai ein hadran ni oedd ar ben y rhestr yn genedlaethol o safbwynt boddhad myfyrwyr ym maes y Gymraeg.

Mae hefyd yn mwynhau cyflwyno’r Gymraeg yn rhyngwladol, gan ddarlithio ym Mhrifysgolion Houston a Harvard yn 2016-17.

Ymchwil Prif Wobrau