An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Professor Tess Fitzpatrick

Yr Athro Tess Fitzpatrick

Athro, Applied Linguistics
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Tess Fitzpatrick yn Athro Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae’n Bennaeth yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Iaith. Dychwelodd i Abertawe yn 2017 ar ôl pum mlynedd yng Nghanolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu Prifysgol Caerdydd. Mae gwaith Tess ar gaffael a phrofi geirfa ail iaith yn cael ei lywio gan ei gyrfa gynnar fel athro Saesneg fel Iaith Dramor a hyfforddwr athrawon. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar brosesu geirfa, ac mae’n arwain y grŵp ymchwil Astudiaethau Geiriadurol. Drwy ddatblygu methodoleg newydd ar gyfer ymchwilio geiriadurol, sy’n defnyddio ymatebion cysylltiol, mae wedi ymestyn ei hymchwil geiriadurol i gyd-destunau heneiddio, dementia a dewisiadau geiriau mewn gofal meddygol. Mae Tess wedi byw yng Nghymru ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ac mae ei phrofiad o fyw yn y rhan ddwyieithog hon o’r DU yn bwydo i mewn i’w gwaith; cyd-sefydlodd y grŵp ymchwil Ieithyddiaeth Gymhwysol a’r Gymraeg, sy’n cynnal prosiectau sy’n ymwneud ag Ieithyddiaeth Gymhwysol, y Gymraeg a’n cymuned ddwyieithog yng Nghymru. 

Roedd Tess yn Gadeirydd Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL) rhwng 2015 a 2018. Mae hi ar Fyrddau Golygyddol Applied Linguistics (OUP), Language Teaching (CUP), System: International Journal of Educational Technology and Language Acquisition (Elsevier), a Journal of the European Second Language Association - JESLA (White Rose University Press), ac mae’n aelod o Grŵp Ymgynghori IRIS (Instruments for Research into Second Languages - IRIS).

Yn 2017, dyfarnwyd Cymrodoriaeth yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol iddi am ei gwaith ym maes astudiaethau geiriadurol a dirnadaeth ehangach o brosesau gwybyddol dysgu ac addysgu iaith.

Meysydd Arbenigedd

  • Ieithyddiaeth Gymhwysol
  • Caffael a phrosesu geirfa
  • Caffael ail iaith
  • Dysgu ac asesu iaith
  • Defnyddio dulliau ymchwil geiriadurol i gyd-destunau newydd