An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Tomás Irish

Dr Tomás Irish

Athro Cyswllt, History

Cyfeiriad ebost

125
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton

Trosolwg

Rwy'n hanesydd ym maes Ewrop  yr ugeinfed ganrif ac mae gennyf ddiddordeb penodol yn hanes diwylliannol y Rhyfel Byd Cyntaf ac Ewrop rhwng y rhyfeloedd. Ymgymerais i â'm graddau BA a PhD yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, Iwerddon, a bues i'n ymgymryd â chymrodoriaeth ymchwil ôl-ddoethurol yno rhwng 2012 a 2015. Cefais i fy mhenodi'n Ddarlithydd Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2015, a chefais i fy mhenodi'n Uwch-ddarlithydd yn 2018 ac yna’n Athro Cysylltiol yn 2022. Rwyf  yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Hanes y Rhyfel Byd Cyntaf
  • Hanes dyneiddiaeth
  • Hanes Ewrop rhwng y ddau ryfel byd
  • Hanes prifysgolion
  • Cynghrair y Cenhedloedd
  • Hanes trawswladol
  • Chwyldro Iwerddon
  • Hanes hyrwyddo heddwch

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rwy'n addysgu ar draws amrywiaeth o fodiwlau ym maes hanes yr ugeinfed ganrif yn Abertawe, gan gynnwys modiwl pwnc arbennig yn y flwyddyn olaf am Gynghrair y Cenhedloedd sef ‘The Lights that Failed’, modiwl dewisol yn y flwyddyn olaf am Chwyldro Iwerddon sef ‘Changed Utterly?’, a modiwl yn yr ail flwyddyn sef ‘Ruin and Renewal:  Europe 1918-1968.’

Prif Wobrau