Ms Samantha Treacy

Ms Samantha Treacy

Swyddog Ymchwil, Psychology
707B
Seithfed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Ms Sam Treacy yn Swyddog Ymchwil ar hyn o bryd yn y Ganolfan Ymchwil i Gamblo Milwrol, Prifysgol Abertawe.

Mae hi wrthi'n cwblhau ei PhD ar gyfathrebiadau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon o ran mudiadau paramilwrol a pharamilitariaeth.   Bu ei gwaith ymchwil blaenorol yn canolbwyntio ar ymgyrchoedd cyfathrebu sy'n ceisio atal eithafiaeth dreisgar, pobl sy'n heneiddio yn y carchar a'r gwasanaethau iechyd meddwl, ymyriadau a gwerthuso, ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Caerefrog a Choleg y Brenin, Llundain.

Meysydd Arbenigedd

  • Gamblo
  • Y Fyddin
  • Iechyd Meddwl
  • Terfysgaeth, eithafiaeth, paramilitariaeth
  • Ymgyrchoedd cyfathrebu
  • Adolygiadau systematig
  • Dadansoddi ansoddol
  • Gwerthuso

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Sam wedi addysgu seminarau ar Ddioddefwyr a Dioddefoleg, modiwlau Troseddau, Cyffuriau ac Alcohol ar y cwrs BSc Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, a bu'n gynorthwy-ydd addysgu ar fodiwlau terfysgaeth a dynladdiad.