An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Llun proffil o Dr Sarah Crook

Dr Sarah Crook

Uwch-ddarlithydd, History

Cyfeiriad ebost

139
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n gweithio ym maes hanes Prydain fodern, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hanes menywod a hanes meddygaeth. Mae fy ngwaith ymchwil ddiweddar, sydd bellach yn cael ei drawsnewid yn fonograff gan Manchester University Press, wedi bod yn archwilio canlyniadau pryder am iechyd meddwl mamau a welwyd mewn trafodaethau am ofal iechyd ac ymgyrchoedd cymdeithasol ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Rwyf wedi dadlau nad peth niwtral oedd pennu iechyd meddwl mamau fel gwrthrych pryder, ond ei fod yn hytrach yn cyfreithloni ac yn ymwreiddio diddordeb elfennau cymdeithasol a meddygol ym Mhrydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Gwnaethpwyd pryder poblogaidd ynghylch iechyd meddwl mamau yn bosibl drwy ddatblygiad gwyddorau cymdeithasol a lledaeniad mecanweithiau arolygu, gan ganiatáu i mi adrodd stori helaethach am sut mae datblygiadau o’r fath yn llywio materion sy’n peri pryder i’r cyhoedd.

Mae fy ngwaith ymchwil cyfredol yn archwilio hanes iechyd meddwl myfyrwyr ym Mhrydain, gan greu cwmpas hanesyddol i’r ‘argyfwng’ presennol mewn perthynas â lles meddyliol israddedigion.

Rwyf wedi cyhoeddi gwaith ar hanes erthylu a hanes y Mudiad Rhyddid Merched. Ymhlith cyfnodolion eraill, mae fy ngwaith ymchwil wedi’i gyhoeddi yn Women’s History Review, Contemporary British History a Medical Humanities. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer BBC History Magazine.

Cyn dechrau darlithio yn Abertawe, roeddwn yn Gymrawd Iau Syr Christopher Cox yng Ngholeg Newydd, Prifysgol Rhydychen. Llwyddais i gwblhau fy ngradd doethuriaeth, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ym Mhrifysgol Queen Mary Llundain yn 2016, ar ôl gwneud gradd Meistr mewn Astudiaethau Menywod, wedi’i ariannu gan yr AHRC, yng Ngholeg Keble, Rhydychen, a gradd israddedig ym Mhrifysgol Sussex.

Rwy’n addysgu ar nifer o fodiwlau yma yn Abertawe a byddwn yn falch o drafod goruchwyliaeth ddoethurol ar feysydd sy’n ymwneud â hanes meddygaeth, hanes ffeministiaeth, neu hanes seiciatreg.

Y tu allan i’r gwaith, rwy’n darllen nofelau, yn mwynhau ffilmiau gwachul sy’n ysgogi teimladau gwych, ac yn treulio amser gyda fy mabi.

Meysydd Arbenigedd

  • Hanes seiciatreg
  • Hanes ffeministiaeth
  • Hanes cwiar
  • Hanes menywod
  • Hanes Prydain yn yr 20fed ganrif
  • Hanes iechyd meddwl myfyrwyr