A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.
Professor Stephen McVeigh

Yr Athro Stephen McVeigh

Athro, History

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602897

Cyfeiriad ebost

317
Trydydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae’r Athro Stephen McVeigh yn Ddeon Cyswllt mewn Addysg yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’n hanesydd diwylliannol ym maes yr Unol Daleithiau yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Mae ei feysydd ymchwil yn amrywiol o fewn y cyfnod hwn o hanes diwylliannol America, ac maent yn cynnwys hanes a mytholeg Gorllewin America, ffilmiau Americanaidd, llenyddiaeth Americanaidd yr 20fed ganrif a ffuglen rad Americanaidd, a Rhyfel a Chymdeithas America.

Mae’n addysgu pynciau mor amryfal â mytholeg y Cyffindiroedd yn hanes a diwylliant America’r 20fed ganrif, Rhyfel Cartref Sbaen, rhyfel diarbed yn yr oes fodern, safbwyntiau rhyngwladol ar ffilmiau propaganda, gwrywdodau Americanaidd, y ‘Ffordd Americanaidd o Ryfela’, terfysgaeth a diwylliant, a chynrychioliadau o ryfel mewn celf, llenyddiaeth a ffilm; ac mae’n cyfrannu at nifer o raglenni israddedig ac ôl-raddedig yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.

Yr Athro McVeigh yw golygydd y gyfres War, Culture and Society, cyfres ymchwil monograff a gyhoeddir gan Bloomsbury. Mae hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol y Journal of War and Culture Studies.

Yr Athro McVeigh yw Cadeirydd RAISE, y rhwydwaith rhyngwladol i ymgysylltu â myfyrwyr.

Meysydd Arbenigedd

  • Rhyfel a chymdeithas Americanaidd
  • Rhyfel Cartref Sbaen
  • Hanes Gorllewin America
  • Y Gorllewin mewn llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd
  • Llenyddiaeth Americanaidd o'r 20fed ganrif
  • Ffilmiau Americanaidd
  • Diwylliant poblogaidd Americanaidd
  • Mytholeg Americanaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mytholeg cyffindiroedd yn hanes a diwylliant America yn yr 20fed ganrif

Rhyfel a Chymdeithas Americanaidd

Hanes diwylliannol America o'r 19eg a'r 20fed ganrif

Ffilmiau Americanaidd

Llenyddiaeth Americanaidd o'r 20fed ganrif a ffuglen rad Americanaidd

Rhyfel Cartref Sbaen

Gwrywdodau Americanaidd

Cynrychioliadau rhyfel mewn celf, llenyddiaeth a ffilm

Ymchwil