An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Mr Steve Morris

Mr Steve Morris

Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol, Humanities and Social Sciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae addysgu ac ymchwil Steve yn canolbwyntio ar Ieithyddiaeth Gymhwysol a’r Gymraeg, yn bennaf ym meysydd sosioieithyddiaeth, cynllunio iaith, caffael iaith ac ieithyddiaeth. Mae ganddo dros ddeg ar hugain o flynyddoedd o brofiad fel ymarferwr addysgu, asesu a chwricwlwm yn y Gymraeg. Ymunodd â’r Adran Addysg Barhaus yn 1991 fel darlithydd cyn trosglwyddo i Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn 2010. 

Mae Steve yn aelod cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ers 2006. Cafodd ei ethol i Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL) yn 2012 cyn dod yn Drysorydd yn 2014.

Prif ganolbwynt ei waith o hyd yw’r rhyngwyneb rhyngddisgyblaethol rhwng Ieithyddiaeth Gymhwysol a’r Gymraeg. Yn 2017 gyda Tess Fitzpatrick, sefydlodd rwydwaith ALAW (Ieithyddiaeth Gymhwysol a’r Gymraeg) ac mae bellach yn gynullydd arno. Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac mae wedi gwasanaethu fel arholwr, ymgynghorydd a chymedrolwr allanol ar gyfer nifer o sefydliadau cenedlaethol, DU ac Ewropeaidd.

Meysydd Arbenigedd

  • Ieithyddiaeth Gymhwysol a'r Gymraeg
  • Sosioieithyddiaeth
  • Cynllunio a pholisi iaith
  • Caffael iaith
  • Ieithyddiaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes: Dull cymunedol o greu corpws ieithyddol