Mr Sam Richards

Mr Sam Richards

Darlithydd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl, Nursing

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol

Trosolwg

Ymunodd Sam â'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel Darlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl ym mis Mehefin 2023.  
Mae Sam yn Nyrs Iechyd Meddwl Cofrestredig ac yn flaenorol mae ef wedi gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau Iechyd Meddwl Acíwt, gan arbenigo mewn Gofal Heb ei Drefnu.

 
Ar ôl bod yn rhan o raglen #150Leaders Cyngor y Deoniaid Iechyd yn ystod ei hyfforddiant nyrsio ei hun, mae Sam wedi gweithio'n agos gyda'r Athro Cysylltiol mewn Nyrsio, Beryl Mansel, i sefydlu Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Abertawe ac mae ef bellach yn Ddirprwy Gyfarwyddwr. Mae'r Academi yn rhaglen arweinyddiaeth ryngbroffesiynol sydd â’r nod o annog a chefnogi myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso rhinweddau arweinyddiaeth i'w cyd-destun personol, proffesiynol a sefydliadol eu hunain.


Mae meysydd diddordeb Sam yn cynnwys mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac ymdrin â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd, yn benodol o ran digartrefedd. Mae Sam wedi gwirfoddoli gyda lloches nos Abertawe ac, ar ôl y pandemig, mae'n parhau i wirfoddoli gyda'r elusen Housing Justice.

Meysydd Arbenigedd

  • Nyrsio Iechyd Meddwl
  • Gofal Acíwt ar gyfer Iechyd Meddwl
  • Gofal heb ei drefnu
  • Brysbennu ac Asesu Iechyd Meddwl
  • Ymarfer lleiaf cyfyngol
  • Cydweithredu rhyngddisgyblaethol/aml-asiantaeth ym maes gofal
  • Arweinyddiaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Nyrsio Iechyd Meddwl 

Gofal Acíwt ar gyfer Iechyd Meddwl 

Gofal heb ei drefnu 

Brysbennu ac Asesu Iechyd Meddwl 

Ymarfer lleiaf cyfyngol 

Cydweithredu rhyngddisgyblaethol/aml-asiantaeth ym maes gofal 

Arweinyddiaeth