Miss Stephanie John

Miss Stephanie John

Uwch-ddarlithydd, Nursing

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602254

Cyfeiriad ebost

210
Llawr Cyntaf
Adeilad Glyndwr
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Dechreuais fy swydd fel Darlithydd mewn Nyrsio Oedolion yn 2014, wrth ymgymryd â chwrs TAR ac MA mewn Addysg ar gyfer y proffesiynau iechyd. Bellach rwyf yn uwch ddarlithydd nyrsio yn Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Rwyf yn addysgu ar draws ystod o raglenni nyrsio a gyflwynir ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion. Hefyd rwyf yn addysgu ystod o weithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys meddygon cysylltiol, a myfyrwyr mewn osteopatheg a chlywedeg.

Rwyf yn goruchwylio traethodau hir graddedigion yn aml ar gyfer y rhai sy’n ymgymryd â’r gradd Meistr mewn nyrsio a’r gradd Meistr mewn Addysg ar gyfer y proffesiynau iechyd.

Mae fy mhrofiad clinigol yn gysylltiedig â Thrawma Plastigau yn bennaf, sy’n arbenigedd y mae gennyf gariad ato ac rwyf yn ei addysgu fel rhan o fodiwl i raddedigion ar destun hyfywedd meinwe. Hefyd mae gennyf brofiad clinigol mewn adsefydlu llosgiadau ac rwyf yn cymryd rhan wrth asesu graddedigion sy’n ymgymryd â’r modiwl “Sylfeini Gofal Llosgiadau”.

Ar hyn o bryd, rwyf yn arweinydd modiwl ar gyfer y modiwl cyn-gofrestru: “Cyflwyniad i ymarfer proffesiynol”.

 Hefyd rwyf yn arweinydd modiwl ar gyfer y modiwl Meistr cyn-gofrestru: “Hanfodion Nyrsio”, sydd i fod i ddechrau fel rhan o’r rhaglen Meistr newydd mewn nyrsio ym mis Medi 2020. Byddaf yn arweinydd ar gyfer Blwyddyn 2 y rhaglen hon.

Ynghyd â’r uchod, rwyf yn diwtor derbyn, yn aseswr academaidd ac yn ddarlithydd cysylltiol ar gyfer lleoliadau clinigol mewn amrywiaeth o feysydd ymarfer clinigol.

Meysydd Arbenigedd

  • Addysg Uwch ac Addysgu
  • Addysg ar gyfer y proffesiynau iechyd
  • Nyrsio
  • Trawma plastig a llawdriniaeth adluniol
  • Rheoli anafiadau
  • Sgiliau clinigol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Addysg Uwch ac Addysgu

Addysg ar gyfer y proffesiynau iechyd

Nyrsio

Trawma plastig a llawdriniaeth adluniol

Rheoli poen

Rheoli anafiadau

Moeseg

Sgiliau clinigol

Gofal acìwt

Lles staff

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau