Trosolwg
Mae Dr Richard Robinson yn Athro Cyswllt yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Ei faes yw llenyddiaeth yr 20fed ganrif a llenyddiaeth gyfoes, gyda diddordeb arbennig mewn moderniaeth a’i dylanwad, Astudiaethau Gwyddelig, astudiaethau ffiniau (yn benodol, argraffiadau o Ganol Ewrop), ac agweddau ar ffilm a ffuglen Eidalaidd. Mae’n awdur dau fonograff, Narratives of the European Border: A History of Nowhere (Palgrave, 2007) a John McGahern and Modernism (Bloomsbury, 2017). Mae wedi cyhoeddi’n eang ar awduron fel Kazuo Ishiguro, James Joyce, Italo Svevo, Rebecca West a John McGahern, ac mae wrthi’n datblygu prosiect cydweithredol ar arddull, o’i ystyried yn gysyniad mewn beirniadaeth lenyddol, theori ac athroniaeth. Ar hyn o bryd mae’n cyd-olygu rhifyn arbennig o Textual Practice (gyda Dr Barry Sheils ar y pwnc ‘The Contemporary Problem of Style’, lle mae’n ystyried croestoriad arddull a thafodiaith yng ngwaith Elena Ferrante. Mae Richard wedi goruchwylio cwblhad nifer o raddau doethuriaeth, ac mae’n croesawu prosiectau pellach yn y meysydd arbenigol uchod. Ef oedd Cyfarwyddwr Rhaglen yr Adran yn ddiweddar ac mae wedi bod yn Swyddog Arholiadau a Swyddog Derbyn.