Trosolwg
Mae Leighton Evans yn Uwch Ddarlithydd mewn Theori Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n Gyfarwyddwr Rhaglen Israddedig y Cyfryngau a Chyfathrebu. Cyn hynny, roedd yn Uwch Ddarlithydd mewn Diwylliannau Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Brighton ac yn gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol ar brosiect Programmable City, wedi’i ariannu gan yr ERC, ym Mhrifysgol Maynooth, Iwerddon. Derbyniodd ei PhD o Brifysgol Abertawe yn 2013.
Mae cefndir ymchwil Leighton ym meysydd Athroniaeth Technoleg a chyfryngau newydd, ac mae wedi cyhoeddi gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithio cymdeithasol yn seiliedig ar leoliad, ffenomenoleg, gwe-ethnograffeg, systemau rheoli, logisteg glyfar a dinasoedd clyfar. Prif ddiddordebau ymchwil Leighton yw trawsnewid ffenomena naturiol yn ddata drwy dechnolegau digidol, a sut mae’r trawsnewid hwn yn arwain at normaleiddio’r digidol mewn bywyd bob dydd. Mae ei waith yn pwyso ar ddamcaniaeth athronyddol o’r ysgol Gyfandirol, yn enwedig gwaith Martin Heidegger, Peter Sloterdijk, Herbert Marcuse a Bernard Stiegler, i weithio drwy’r materion sy’n dod i’r amlwg o gyd-bresenoldeb technoleg ddigidol mewn bywyd bob dydd. Mae gwaith ymchwil presennol Leighton ar ‘fydolrwydd rhithwir’, gan asesu sut mae defnyddwyr yn gwneud synnwyr o amgylcheddau mewn realiti estynedig a rhithwir drwy eu hymgysylltu â gwrthrychau rhithwir, pethau a defnyddwyr eraill. Ariannwyd y prosiect hwn gan grant cychwynnol o £10,000 drwy fenter Rising Stars Prifysgol Brighton. Ar hyn o bryd, mae Leighton Evans yn gweithio gyda Michal Rzeszewski a Jacek Kotus o Brifysgol Adam Mickiewicz, Poznan, Gwlad Pwyl ar y prosiect ‘Augmented City’ gyda chyllid o £120,000 gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol, Gwlad Pwyl.
Mae Leighton yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr doethurol sy’n dymuno mynd ar drywydd ymchwil ym meysydd y cyfryngau digidol, y cyfryngau cymdeithasol, realiti rhithwir ac estynedig, theori cyfryngau a diwylliant cyfrifiadurol.