Dr Laura Kalas

Dr Laura Kalas

Uwch-ddarlithydd, English Literature

Cyfeiriad ebost

213
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Laura Kalas yn arbenigo mewn llenyddiaeth merched ganoloesol. Mae hi’n ymddiddori’n benodol mewn ymchwil sydd yn croesi disgyblaethau, a’r ffordd y mae trafodaeth am feddygaeth yn y canol oesoedd yn cynnig lens ddefnyddiol er mwyn ystyried delweddaeth o’r corff, o’r synhwyrau ac o’r ysbryd. Mae ymchwil Laura yn ymdrin â’r ffenomena o brofiadau gweledigaethol neu ‘gyfriniol’ gan ferched yn y canol oesoedd, testunau crefyddol, theorïau canoloesol am ffisioleg, am y synhwyrau ac am emosiynau. Mae’r cydgyfeiriad rhwng y canol oesoedd a’r byd modern yn ganolog i’w gwaith, yn enwedig materion iechyd a llesiant, a rhywedd a rhywioldeb.

Cyhoeddwyd llyfr cyntaf Laura gyda D.S. Brewer, Margery Kempe’s Spiritual Medicine: Suffering, Transformation and the Life Course, yn 2020. Mae hi’n cyd-olygu dwy gyfrol: Encountering The Book of Margery Kempe (Gwasg Prifysgol Manceinion), a’r gyfrol ganoloesol o’r gyfres aml-gyfrol A Cultural History of Women in Christianity (Routledge). Mae hi wedi cyfrannu at The Literary Encyclopedia ac wedi cyhoeddi erthyglau yn The Conversation ac yn yr Independent. Mae ei gwaith ar y rysáit feddygol sydd ar ddiwedd The Book of Margery Kempe wedi ymddangos yn y Guardian ac yn y BBC History Magazine.

Laura yw Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil y Dyniaethau Meddygol (MHRC) yn Abertawe ac mae hi’n aelod o’r Ganolfan Ymchwil Canoloesol a Modern Cynnar (MEMO). Mae hi’n addysgu modiwlau am lenyddiaeth a diwylliant y Canol Oesoedd, rhywedd a meddygaeth, a llenyddiaeth yn fwy cyffredinol. Hoffai dderbyn ymholiadau gan ddarpar ymchwilwyr ôl-raddedig a fyddai’n dymuno astudio testunau Gradd Doethur sydd yn berthnasol i’r rhai uchod.

Meysydd Arbenigedd

  • Llenyddiaeth ganoloesol
  • Ysgrifennu merched canoloesol
  • Trafodaeth feddygol ganoloesol
  • Rhywedd a Rhywioldeb
  • Testunau crefyddol canoloesol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
Prif Wobrau