Dr Jennifer Gatzemeier

Darlithydd mewn Seicoleg, Psychology
817
Wythfed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Gwnaeth Jennifer gwblhau ei gradd doethur ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020 ac aros mewn swydd tiwtor yn yr Adran Seicoleg.

Mae ei thesis yn ymchwilio i strategaethau er mwyn rheoli cymryd bwydydd dengar y mae pobl yn eu defnyddio yn eu bywydau bob dydd. Graddiodd â BSc ac MSc mewn Gwyddor Maeth o Brifysgol Dechnoleg Munich, yr Almaen.

Daeth yn Gymrawd Cysylltiol yr Academi Addysg Uwch yn 2019.

Mae’n rhan o’r grŵp SNAC (sef Swansea Nutrition, Appetite and Cognition; https://snacswansea.wordpress.com/) yn ogystal â bod yn drefnydd sy’n arwain y grŵp ysgrifennu PAWS ar draws y Brifysgol (sef Peer All-Staff Writing Support; https://pawspeer.wordpress.com/).

Mae ei diddordebau yn amrywio o ymddygiad bwyta, dylanwad nodweddion personoliaeth ac ymddygiad bwyta ar fwyta, bwyta byrbrydau, temtasiwn i wyddoniaeth agored.

Meysydd Arbenigedd

  • Gorbwysedd a Gordewdra
  • Ymddygiad bwyta
  • Nodweddion personoliaeth
  • Nodweddion ymddygiad bwyta
  • Dulliau ymchwil ansoddol a meintiol
  • Gwyddoniaeth agored

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Jennifer yn addysgu dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol ar y lefel israddedig a’r lefel ôl-raddedig. At hynny, mae’n darparu cyrsiau i gyflwyno myfyrwyr i SPSS ac yn cefnogi darlithoedd a seminarau sy’n ymwneud â bwyta a maetheg.

Ymchwil Prif Wobrau