Dr Glen Dighton

Dr Glen Dighton

Swyddog Ymchwil, Psychology

Cyfeiriad ebost

707B
Seithfed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Dr Glen Dighton yn Swyddog Ymchwil ar hyn o bryd yn y Ganolfan Ymchwil i Gamblo Milwrol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ei rolau ymchwil yn y gorffennol yn cynnwys Swyddog Hwyluso Ymchwil ar gyfer Rhwydwaith Ymchwil, Addysg a Thrin Gamblo,  Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Kings ar gyfer Ymchwil i Iechyd Milwrol yng Ngholeg y Brenin Llundain a Chynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae gan Dr Dighton brofiad hefyd o weithio yn y Gwasanaethau Oedolion Diogeledd Isel ac yng Ngwasanaethau Seiciatrig Fforensig Diogeledd Canolig i Ieuenctid a'r Glasoed.

Meysydd Arbenigedd

  • Gamblo a niwed cysylltiedig
  • Iechyd meddwl milwyr a chyn-filwyr
  • Y croestoriad rhwng gamblo a gemau digidol
  • Ymddygiad caeth
  • Oedi a pherffeithiaeth
  • Dadansoddi data ansoddol
  • Methodoleg arolygon

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Yn y gorffennol mae Dr Dighton wedi bod yn diwtor personol i fyfyrwyr y radd BSc Seicoleg a Niwrowyddoniaeth, a'r radd MSc Rhyfel a Seiciatreg yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Mae Dr Dighton wedi addysgu ar raglen yr MSc Rhyfel a Seiciatreg.