Trosolwg
Mae Beth yn Uwch-ymarferydd Nyrsio ac yn bresgripsiynydd Annibynnol. Hi yw Cyfarwyddwr y Rhaglen ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer Presgripsiynu Annibynnol Anfeddygol i nyrsys/bydwragedd, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Hefyd mae’n addysgu ar y rhaglenni Ymarfer Uwch mewn Gofal Iechyd ac mae’n frwd iawn dros oresgyn rhwystrau ym maes gofal iechyd er mwyn gwella’r gofal ar gyfer cleifion.
Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gofal ar gyfer pobl hŷn, ac ar ôl sefydlu modiwl mewn ‘Asesu’r Person Hŷn’, dyma ymagwedd a fydd yn datblygu ymhellach yn y dyfodol.
Am y rhan fwyaf o’i gyrfa mae hi wedi gweithio mewn lleoliadau gofal Sylfaenol rhwng y Practis Cyffredinol a’r Gymuned.
Mae’n addysgu am bedwar diwrnod yr wythnos ac yn parhau i ymarfer.