Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel.
Llun proffil o Mr Georgios Dimitropoulos

Mr Georgios Dimitropoulos

Darlithydd, Media
002
Llawr Gwaelod
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cyfarwyddwr a chynhyrchwr ffilmiau arobryn, hyrwyddwr arloesedd ac academydd yw Georgios Dimitropoulos. Mae wedi sefydlu a hybu sawl cwmni yn y diwydiannau creadigol a'r cyfryngau darlledu. Mae wedi derbyn 40 gwobr gan amryw ŵyl ffilmiau ryngwladol, ac mae ei ffilmiau wedi'u dethol a'u dangos mewn dros 70 o wyliau ffilmiau ledled y byd. Mae wedi teithio a gweithio mewn dros 50 o wledydd ar gyfer amryw brosiectau a mentrau'n ymwneud â chyrff anllywodraethol yn y trydydd sector, sefydliadau nid er elw, sefydliadau cymunedol a sefydliadau yn y sector preifat a chyhoeddus. Derbyniodd 9 gwobr rhagoriaeth ryngwladol am arweinyddiaeth drawsnewidiadol ac arloesi aflonyddol. Bu’n ymgynghori â busnesau a llywodraethau dros yr 20 mlynedd diwethaf ynghylch effeithiolrwydd eu perfformiad sefydliadol a chyflymu twf drwy arweinyddiaeth drawsnewidiadol, rheoli argyfyngau ac arloesi prosesau.

 

Mae Georgios yn ddarlithydd yn Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu ac yn Bennaeth Labordy Arloesedd Ystafell y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Georgios yn siaradwr TEDx a bu'n ymchwilio i feysydd Democratiaeth Ddigidol, Cyfalafiaeth Gwyliadwriaeth, a Thechnolegau Dilysu Cynnwys. Mae'n ymgynghorydd strategol i gonsortia creadigol a phrosiectau ymgysylltu rhyngwladol. Mae wrthi'n rhoi ei amser i brosiectau ymgysylltu rhanbarthol ac yn arwain mentrau cymunedol nid er elw drwy hyrwyddo llythrennedd y cyfryngau a defnyddio technolegau moesegol er mwyn ymladd yn erbyn anghydraddoldeb a thwyllwybodaeth ar-lein. Mae'n ymroddedig i'r celfyddydau, diwylliant a chadwraeth natur a defnydd cynaliadwy mewn perthynas â bioamrywiaeth ac mae'n hyrwyddo hyn trwy wneud ffilmiau dogfen.