Yr Athro David Hughes

Athro Emeritws (Polisi Iechyd), Medicine Health and Life Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602114

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae David Hughes yn Athro Emeritws, a chanddo gysylltiadau â materion y Coleg o hyd.  Mae wedi gweithio ym maes polisi iechyd, cymdeithaseg feddygol ac astudiaethau gyfreithiol-gymdeithasol, ac ar wahân i gyfnod hir yn Abertawe, cafodd ei benodi cyn hynny ym Mhrifysgolion Dundee, Rhydychen a Nottingham. Yn ogystal ag ymchwilio i GIG Prydain, mae Hughes wedi cyhoeddi ar destun diwygio’r systemau iechyd yng ngwlad Thai ac yn Nhwrci. Ei brif ddiddordebau ymchwil ar hyn o bryd yw rheoli meddyginiaeth, a systemau gofal iechyd rhyngwladol. 

Mae David yn un o gymrodorion yr Academy of Social Sciences ac enillodd ei PhD o Brifysgol Abertawe flynyddoedd lawer yn ôl. Mae'n gwasanaethu ar fyrddau golygyddol Healthcare (MDPI) a Chyfnodolyn Gweinyddu Cyhoeddus Gwlad Thai (Sefydliad Cenedlaethol Gweinyddu Datblygiad), ac mae'n Ohebydd Rhyngwladol i Salute e Societa (Franco Angeli, yr Eidal).

Meysydd Arbenigedd

  • Polisïau iechyd
  • Diwygiadau i brynwyr/darparwyr
  • Cytundebau’r GIG
  • Gofal iechyd cwmpas cyffredinol
  • Cymdeithaseg feddygol
  • Cynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd. Ymgysylltu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Rheoli meddyginiaeth

Polisïau iechyd yng Ngwlad Thai

Diwygio iechyd cwmpas cyffredinol

Ymarfer ddeuol