A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea
Dr Christian Knoblauch

Dr Christian Knoblauch

Darlithydd, Classics
134
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n arbenigwr ar archaeoleg yr Aifft hynafol a Nwbia. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn defnyddio diwylliant materol i archwilio agweddau diwylliannol ehangach, er enghraifft, cysylltiadau trefedigaethol, canfyddiadau newidiol am y meirw, neu’r berthynas rhwng ffiniau diwylliannol materol a grwpiau cymdeithasol o fewn Dyffryn Nîl yn yr Aifft. Mae fy ymchwil yn pwyso ar brosiectau gwaith maes yn yr Aifft a’r Swdan. Rwy’n gyfarwyddwr cynorthwyol prosiect Mynwent Ganol Abydos Prifysgol Michigan Abydos, ac yn gyd-gyfarwyddwr i Laurel Bestock (Prifysgol Brown) ar Brosiect Archaeolegol Rhanbarthol Uronarti. Ffocws y gwaith olaf yw caer odidog y Deyrnas Ganol ar ynys Uronarti. Rwy’n edrych ymlaen at gynnwys myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn y ddau brosiect yn y dyfodol.

Dilynais gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Macquarie yn Sydney, gan dderbyn gradd PhD yn 2008 am draethawd ymchwil a gwblhawyd fel gwestai ym Mhrifysgol Rydd Berlin. Cyn fy mhenodiad yn Abertawe, dysgais ym Mhrifysgol Sydney, Prifysgol Macquarie, Prifysgol Monash a Phrifysgol Fienna. Yn fwyaf diweddar, roeddwn yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Academi Gwyddorau Awstria. Ar hyn o bryd rwy’n cwblhau monograff yn seiliedig ar yr ymchwil honno o’r enw Material Culture and Society: Abydos Assemblages from the Late Middle Kingdom until the Early New Kingdom. Rwyf hefyd yn yfed coffi.

Meysydd Arbenigedd

  • Archaeoleg
  • Eifftoleg
  • Archaeoleg Swdan
  • Nwbia Hynafol
  • Diwylliant Materol
  • Crochenwaith hynafol
  • Gwladychiaeth hynafol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Cydweithrediadau

Dr Janet Richards – Prifysgol Michigan, Prosiect Mynwent Ganol Abydos

Dr Laurel Bestock- Prosiect Archaeolegol Rhanbarthol Uronarti

Dr Peter Lacovara – Cronfa Treftadaeth ac Archaeoleg yr Aifft hynafol (cyhoeddi manylion cloddiadau George Reisner yn Deir el-Ballas)