Trosolwg
Dechreuodd fy ngyrfa nyrsio fel Nyrs Gofrestredig Gyffredinol nes i fi fod yn Ymwelydd Iechyd a ffocws fy niddordeb wedyn oedd iechyd cyhoeddus, plant a phobl ifanc. Mae fy mhrofiad darlithio dros yr 20 mlynedd ddiwethaf wedi fy ngalluogi i rannu fy angerdd dros iechyd cyhoeddus a nyrsio cymunedol. Ar hyn o bryd, fi yw cyfarwyddwr y rhaglenni Ymwelwyr Iechyd a Nyrsio Ysgol a’r MSc Ymarfer Gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol o fewn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rwy’n ymrwymedig i wella iechyd plant a phobl ifanc yng Nghymru ac wedi ysgrifennu nifer o erthyglau a phennod ar gyfer gwerslyfr nyrsio Plant a Phobl Ifanc. Rwy’n Uwch Gymrawd AdvanceHE ac yn mwynhau cefnogi a mentora cydweithwyr i wella eu harbenigedd dysgu ac addysgu.