Charlotte Davies

Dr Charlotte Davies

Darlithydd yn y Biowyddorau, Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604782

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
138
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar glefydau mewn ecosystemau morol sydd â’r gallu i newid bywyd y cefnforoedd a’r cymunedau arfordirol sy’n dibynnu arno. Ar hyn o bryd Swyddog Ymchwil Pysgodfeydd SEACAMS2 ydw i, gan weithio ar draws nifer o brosiectau gan gynnwys asesu stoc sgadan a thagio brithyllod y môr, ar y cyd â phartneriaid diwydiannol megis Pwerdy Sir Benfro, RWE a Frog Environmental. Cyn hynny roeddwn yn Swyddog Gwyddonol y Grŵp Imiwnoleg a Phathofioleg Gymharol sy’n gweithio ar brosiect BlueFish.

Cefais fy BSc mewn Bioleg a’m doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe, gan astudio pathogenau pysgod cregyn Ewrop sy’n economaidd bwysig, sef y cimwch Ewropeaidd a’r cranc brown (sy’n fwytadwy). Yn fy swydd ôl-ddoethuriaethol gyntaf yn Sefydliad Gwyddorau Morol a Llynoleg Prifysgol Hunanlywodraethol Genedlaethol Mecsico, bûm yn ymchwilio i’r berthynas rhwng ecoleg cynefinoedd trofannol a mynychter clefydau yng nghimwch pigog y Caribî.

Mae fy ymchwil ddiweddaraf, drwy Brosiect BlueFish, yn ymchwilio i gysylltedd clefydau yn yr amgylchedd dyfrol, gan gynnwys y gallu i ‘ddilyn’ ôl pathogenau o golofn y dŵr i mewn i’r lletywr gan ddefnyddio dulliau DNA (eDNA) amgylcheddol. Rwy eisiau gweithio tuag at well dealltwriaeth o sut y gall straenachoswyr anthropogenaidd megis pysgota, newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau ymledol effeithio ar darddiad, ymlediad a chysylltedd clefydau morol.

Meysydd Arbenigedd

  • Clefydau anifeiliaid dyfrol
  • Cramenogion
  • Pysgod cregyn
  • Ardaloedd Morol Gwarchodedig
  • Cysylltedd Clefydau
  • eDNA
  • Ecosystemau trofannol
  • Pysgodfeydd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rwy’n cydlynu modiwl israddedig lefel 2: BIO238 Ecosystemau: Bygythiadau a Chadwraeth. Mae’r modiwl yn cyflwyno ecosystemau morol amrywiol i’r myfyrwyr yn ogystal â’r cysyniadau ecolegol bras sy’n sail i strwythur cymunedau morol. Rydyn ni’n canolbwyntio ar rai o’r bygythiadau i ecosystemau, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, clefydau, pysgota anghyfreithlon a thwristiaeth. Bydd y modiwl hefyd yn cyflwyno ymdrechion cadwraeth mewn escosystemau morol, gan gynnwys rhai trofannol a phegynol.

Prif Wobrau Cydweithrediadau