Trosolwg
Mae Amy Griffiths (Romijn gynt) yn ddarlithydd Seicoleg ac yn addysgu ar ein rhaglenni BSc ac MSc. Mae hi'n seicolegydd biolegol gydag arbenigedd mewn maeth ac iechyd meddwl. Roedd ei PhD yn canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng microbiom y perfedd ac iselder, ac mae meysydd eraill o ddiddordeb ymchwil yn cynnwys asidau brasterog omega 3, atchwanegiadau maethol, llid a swyddogaeth imiwnedd, a chysylltiadau rhwng awtistiaeth, cwsg a maeth. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn rhan o sawl prosiect sy'n ymwneud â lles myfyrwyr.