EG-M346 Dull Adeiladu a Chydlynu Gwaith Dros Dro

adeiladu

Manylion y Cwrs

Wedi'i gefnogi gan TWf, mae'r cwrs yn cael ei addysgu ar y cyd gan 10 arbenigwr diwydiannol sydd â phrofiad ac arbenigedd sylweddol fel contractwyr (e.e. Costain a Skanska) ac fel ymgynghorwyr (e.e. DE-CS, Richter, Crouch Waterfall, RDG, Tony Gee etc.) Mae'n darparu triniaeth eang o waith dros dro, gan gynnwys:

Mae'r cwrs yn rhan o'n rhaglenni MSc amser llawn ar gyfer Peirianneg Sifil, Peirianneg Strwythurol a Rheoli Adeiladu. Mae hefyd ar gael i ddysgwyr proffesiynol allanol ei gymryd fel modiwl Datblygu Proffesiynol Parhaus annibynnol.

Bydd gan ddysgwyr Datblygu Proffesiynol Parhaus fynediad llawn at gynnwys y modiwl yn yr un modd â'r myfyrwyr amser llawn. Bydd Prifysgol Abertawe yn rhoi tystysgrif Datblygu Proffesiynol Parhaus i bob myfyriwr allanol ar ddiwedd y cwrs.

Lefel y Cwrs

Cwrs Datblygu Proffesiynol Parhaus annibynnol, gyda thystysgrif Datblygu Proffesiynol Parhaus gan Brifysgol Abertawe.

Pwy ddylai astudio’r cwrs?

Peirianwyr proffesiynol sydd â diddordeb ac y mae arnynt angen hyfforddiant mewn gwaith dros dro. 

Dyddiad

Dechrau o'r wythnos gyntaf ym mis Hydref.

Hyd

Mae'n cael ei gyflwyno dros gyfnod o 10 wythnos, gyda darlith/dosbarth trafod 3 awr bob wythnos. Bydd yr holl ddarlithoedd yn cael eu cyflwyno'n fyw â dolen fideo, a byddant i gyd yn cael eu recordio i alluogi mynediad all-lein.

Asesu

Nid yw myfyrwyr Datblygu Proffesiynol Parhaus yn cael eu hasesu/harholi, ond mae angen iddynt gymryd rhan ym mhob un o elfennau’r cwrs a dangos cyfranogiad llawn drwy gwblhau'r profion cwis ar-lein.

Cost

£600 

Lleoliad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe. Gall myfyrwyr Datblygu Proffesiynol Parhaus ddilyn y cwrs o bell drwy ddarlithoedd ar-lein

Yr Athro Chenfeng Li

Athro Peirianneg Sifil

Cyfarwyddwr, Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data ac AI

Cyfarwyddwr Anweithredol, Temporary Works Forum

Prif Olygydd, Engineering Computations