Amy Dillwyn

Amy Dillwyn (1845–1935) oedd un o ddiwydianwyr benywaidd cyntaf y byd. Yn y 1890au, gwnaeth gymryd rheolaeth dros weithfeydd sinc a oedd yn methu a'u trawsnewid i fusnes sy'n dwyn elw. Yn un nad oedd erioed wedi'i rhwymo gan gonfensiwn, teithiodd i Ewrop a de Affrica i sicrhau cadwyni cyflenwi, trafod telerau gyda pheirianwyr a pherchnogion pyllau glo, a – gyda'r sigâr a oedd pawb yn ei hadnabod amdani – daeth yn ffigur lleol a chenedlaethol adnabyddus.

Bydd Dr Carol Bell, menyw fusnes ac archeolegydd, yn edrych ar y rhan hon o fywyd Amy y mae llai yn gwybod amdani, pan wnaeth hi ddefnyddio’r ddawn sylweddol iawn a oedd ganddi (yr oedd hi wedi'i hymrwymo i waith llenyddol yn y gorffennol) i achub bywoliaeth ei gweithwyr pan oedd Abertawe yn dioddef ar ôl effaith Toll McKinley a osodwyd gan yr Unol Daleithiau i ddiogelu asedau gweithgynhyrchu. Bydd y stori'n dangos y gall y gwir weithiau fod yn fwy rhyfedd na chelwydd.