Siaradwyr
25 Ebrill 2013: George W. S. Abbey Sr.
'Wales, America and the Space Race'
4 Hydref 2011: John McGrath
‘From Blackwood to Brecon to Port Talbot’s Passion: The National Theatre Wales journey’
Mae Charlotte Frances Burton yn actores, yn gyfarwyddwr ac yn ysgrifennydd o Efrog Newydd. Burton yw cynrychiolydd y teulu ar gyfer Richard Burton 100. Mae hi ar hyn o bryd yn byw ac yn astudio yng Nghaerdydd.
Yn ei darlith, bydd Charlotte yn myfyrio ar ei safbwyntiau ynghylch etifeddiaeth Richard Burton yn yr 21ain ganrif. Bydd hi’n archwilio ei blentyndod, ei esgyniad i enwogrwydd, a’i fywyd personol, ynghyd â’r modd y mae ei stori wedi siapio persbectif wyres a anwyd ar ôl ei farwolaeth.
Wedi’r ddarlith bydd Charlotte yn ymuno mewn sgwrs gyda’i mam, yr actores adnabyddus Kate Burton, merch Richard Burton. Mae Kate yn cael ei chydnabod yn eang am ei gwaith ar lwyfan ac ar sgrîn, gan gynnwys Grey’s Anatomy, Scandal, The Ice Storm, yn ogystal â’i pherfformiadau ar Broadway. Gyda’i gilydd, byddant yn cynnig safbwynt unigryw, traws-genedlaeth ar etifeddiaeth Richard Burton heddiw.
Mae Darlith Richard Burton yn rhan o gyfres flynyddol o ddigwyddiadau mawreddog a arweinir gan Ganolfan Richard Burton mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe.
Ar drothwy blwyddyn canmlwyddiant geni Richard Burton, wrth i ddur ym Mhort Talbot wynebu argyfwng ac i ymdrechion i roi coffâd haeddiannol i hanes diwydiant yng Nghymru ym Merthyr Tudful gychwyn dwyn ffrwyth, mae Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Sefydliad Cyfarthfa, yn olrhain arwyddocâd y ddwy dref hanesyddol a diwylliannol.
Awdur a darlledwr yw Geraint Talfan Davies sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus a’r celfyddydau yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Ef yw ysgogydd y prosiect presennol i ddatblygu Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful. Cafodd yrfa ym maes papurau newydd a darlledu gydag ITV a’r BBC. Bu’n Rheolwr BBC Cymru ac yn Gadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru, Cyngor y Celfyddydau ac Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Bae Caerdydd, a bu hefyd yn un o sylfaenwyr y Sefydliad Materion Cymreig. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol gyda Severn Screen Cyf. ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.
Bydd Branwen Okpako yn trafod sut y bu i’r profiad o wneud y ffilm am ei threftadaeth Gymreig, Searching for Taid (1998), ddiffinio ei hestheteg a’i harddull fel gwneuthrwr ffilmiau. Bydd hefyd yn trafod ei pherthynas â gwaith Richard Burton, gan gyfeirio at y ffilm Cleopatra. ‘Yn y sinema’, noda Okpako, ‘y gynulleidfa yw’r peilot a’r teithiwr’. Bydd ei darlith yn archwilio rôl sinema yng ngoleuni’r dyfyniad yma, yn arbennig y frwydr i ddiffinio’ch hun mewn cymdeithas yr ydych yn anweledig ynddi.
Nos Iau 17eg Tachwedd, 6:30yh-7:30yh
Ysgol Cwm Brombil, Ffordd y Bertha, Port Talbot SA13 2AN
Mae Kate Burton yn actor, yn gyfarwyddwr, yn athro ac yn ymgyrchydd llafur. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith teledu ar Grey’s Anatomy, Scandal ac yn fwyaf diweddar Inventing Anna, The Dropout a Bosch Legacy. Ymhen ychydig bydd hi'n ymddangos yn Echo Longboard i Apple+ ac mae hi newydd orffen y ffilm Our Son, a’r ddau gyda Luke Evans. Roedd hi yng nghast Under Milkwood (Dan y Wenallt) ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas gyda Matthew Rhys yn Los Angeles a Michael Sheen yn Efrog Newydd (darllediad byw ar BBC Wales). Mae hi wedi ymddangos ar Broadway bymtheg gwaith a chafodd ei henwebu ar gyfer tair gwobr Tony am Hedda Gabler, The Elephant Man a gyfarwyddwyd gan Sean Mathias a The Constant Wife gyda Lynn Redgrave. Ym myd ffilm mae hi wedi ymddangos yn Big Trouble in Little China, 127 Hours gan Danny Boyle, The Ice Storm, Celebrity gan Woody Allen, Unfaithful, Rescue Me, Where’d You Go, Bernadette? a llawer mwy. Yn y Deyrnas Unedig, mae hi wedi ymddangos yn y West End yn Three Sisters a gyfarwyddwyd gan Michael Blakemore gyda Kristin Scott Thomas a Tobias Menzies, August (addasiad ffilm Gymreig o Uncle Vanya) wedi’i gyfarwyddo gan, ac yn cynnwys, Anthony Hopkins, taith The Beauty Queen of Leenane o’r DU/Iwerddon a gyfarwyddwyd gan Garry Hynes a’r gyfres fer ar CBS Ellis Island, ble mae’n ymddangos gyda’i thad.
Yn enedigol o Genefa, y Swistir, yng Nghonswl Prydain, fe’i magwyd yn Efrog Newydd o bedair oed pan ysgarodd ei rhieni, Sybil Williams (o’r Rhondda) a Richard Burton (o Bont-rhyd-y-fen). Derbyniodd ei gradd BA o Brown University a Gradd Meistr y Celfyddydau Cain (MFA) mewn actio o Ysgol Ddrama Yale, ac mae hi bellach yn Athro Ymarfer Theatr ym Mhrifysgol De Califfornia. Gan barchu ei gwreiddiau llafur Cymreig, mae’n gwasanaethu ar gyngor undeb llafur, Actor’s Equity Association, ac roedd ar y pwyllgor llywio pan unwyd SAG ac AFTRA.Mae hi’n aelod o fyrddau Broadway Cares/Equity Fights Aids ac mae’n llysgennad Elizabeth Taylor Aids Foundation. Mae hi’n byw yn Efrog Newydd ac yn LA gyda'i gŵr, Michael Ritchie, ac mae ganddynt ddau o blant, Charlotte a Morgan.
‘Do Welsh Museums Matter?’ David AndersonNos Fercher 1 Rhagfyr, 6yh-7yh
Darlithfa Faraday, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe
Digwyddiad rhad ac am ddim - trwy docyn. Archebwch yma.
Traddodir Darlith Flynyddol Richard Burton eleni gan David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Mae David Anderson wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru - National Museum Wales ers 2010. Dechreuodd ei yrfa fel athro hanes ysgol uwchradd, ac yna daeth yn addysgwr mewn amgueddfeydd. Ochr yn ochr â'i waith mewn amgueddfeydd, mae wedi ysgrifennu adroddiad i Lywodraeth y DU, ‘A Common Wealth: Museums in the Learning Age’ (1999) ac wedi creu a chyd- gadeirio Grŵp Diwylliannol Exhibition Road (2001 - 2008), consortiwm o 20 sefydliad diwylliannol yn ardal South Kensington, Llundain.
'Imperial Intimacies: A Tale of Two Islands' Professor Hazel V. Carby
Yr Athro Carby darllenodd o Imperial Intimacies cyn trafod ei bywyd a’i gyrfa mewn sgwrs gyda’r Athro Daniel G. Williams, cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn ei llyfr, Imperial Intimacies: A Tale of Two Islands, mae Carby yn symud rhwng y presennol a'r gorffennol, gan ddilyn llinynnau teuluol a hanesyddol ei thad o Jamaica a'i mam o Gymru, gan osod ei bywyd ei hun o fewn hanes ehangach yr Ymerodraeth ac economi’r gaethfasnach drawsatlantig. Y gyfrol wedi ennill Gwobr Nayef Al-Rodhan ar yr Academi Brydeinig.
Mae'r Athro Hazel V. Carby yn beirniad diwylliannol blaenllaw, arloeswr ym meysydd ffeministiaeth ddu, amlddiwylliannedd ym Mhrydain ac astudiaethau Affro-Americanaidd. Mae'r Athro Carby yn gyd-awdur The Empire Strikes Back ac yn awdur Cultures in Babylon: Black Britain and African America, Race Men, a Reconstructing Womanhood. Bellach yn Athro Emeritws, bu’n dysgu am ddeng mlynedd ar hugain ym Mhrifysgol Iâl fel Athro Charles C a Dorothea S Dilley ym meysydd Astudiaethau Affro-Americanaidd ac Astudiaethau Americanaidd.
Nos Iau 10fed Rhagfyr 2020 am 7yh
Trefnwyd gan Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe.
Bydd y cyfansoddwr o Gymru, Rhian Samuel, wedi siarad am ei bywyd yn gyfansoddwr cerddoriaeth glasurol yn UDA a’r DU, o gyfnod pan oedd cyfansoddwyr benywaidd yn hynod brin, hyd at heddiw pan geir llawer mwy ohonynt. Ym mha ffyrdd y gall hyn fod wedi cyfoethogi ein diwylliant? cafodd gymorth gan Siân Dicker (soprano) a Kristal Tunnicliffe (piano) a berfformiodd Cerddi Hynafol, trefniadau o dri thestun Cymraeg o’r canol oesoedd, yr ymddengys mai menywod oedd yr awduron, a’r gân ‘Before Dawn’, trefniant o’r gerdd ‘Mourning to Do’ gan yr Americanes, May Sarton.
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2019 am 7.30yh
Trefnwyd gan Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe.
Yn a darlith, roedd Guy Masterson - y cynhyrchydd, actor, cyfarwyddwr ac enillydd gwobr Olivier - yn archwilio’r ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol a’r ysbrydoliaeth sydd yn codi ohoni ac yn bwydo’r enaid.
Dydd Mercher 7 Tachwedd 2018 am 6.30yh
Theatr Michael Sheen, Ysgol Bae Baglan, Parêd Seaway, Port Talbot SA12 7BL
Darlith gyhoeddus am ddim.
Trefnydd: Yr Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr, Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton (daniel.g.williams@abertawe.ac.uk).
Trefnwyd y ddarlith gan y Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Ysgol Bae Baglan
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg
Roedd yr artist a’r argraffydd Cymraeg enwog yn traddodi sgwrs ddarluniadol yn cynnig archwiliad o’r prosesau creadigol a’r ysbrydoliaeth sydd wedi cynnal ei yrfa glodfawr sydd yn pontio dros chwe degawd, ac yn dogfennu’r tirluniau diwydiannol naturiol a chyfnewidiol ei ardal enedigol De Cymru.
Roedd y ddarlith hefyd yn dynodi cyrhaeddiad casgliad o ddarluniau David Carpanini yn y Brifysgol, ar fenthyg gan Unite the Union. Mae’r casgliad yn bodoli diolch i weledigaeth y diweddar Clive Jenkins, ysgrifennydd cyffredinol yr ASTMS, noddwr mawr o’r celfyddydau a brodor o Bort Talbot. Mae’r gweithiau celf hyn yn ategu casgliad o argraffiadau a roddwyd yn hael gan David Carpanini yn 2016.
Dyddiad: Nos Iau 16 Tachwedd - 7:30pm (Y Neuadd Fawr, Campws y Bae, Prifysgol Abertawe).
Os na lwyddoch i ddod i’r ddarlith, sgroliwch i lawr i waelod y dudalen hon. Mae lluniau o’r noson ar gael yma.
David Carpanini yw un o artistiaid mwyaf adnabyddus ac uchel ei barch Cymru. Ganed yng Nghwm Afan ym Morgannwg yn 1946 ac fe hyfforddodd yng Ngholeg Celf a Dylunio Swydd Gaerloyw, Cheltenham; y Coleg Celf Brenhinol; a Phrifysgol Reading.
Er ei fod wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn yn Lloegr, mae ei baentiadau, darluniadau ac ysgarthiadau wedi eu hymroi bron yn gyfan gwbl i gyflwyno’r cymoedd a hen gymunedau cloddio De Cymru ble y magwyd. Mae’n glynu’n ffyddlon at lunio unigolion unig, tirluniau creithiog, terasau tai a defaid bratiog ar ochr ffyrdd a’r rhain sy’n gyfrifol am ddatblygiad ei ddychymyg creadigol.
Yn gyn Athro Celf ym Mhrifysgol Wolverhampton mae David Carpanini yn aelod o amryw o grwpiau mawreddog ac ef oedd yr Llywydd Cymraeg cyntaf o’r Gymdeithas Frenhinol o Arlunwyr-Argraffwyr(RE). Am lawer o flynyddoedd mae ei waith wedi cael ei gynnwys yn arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol ac mae wedi arddangos mewn llawer o arddangosfeydd grŵp ac unigol yn y DU a dramor. Mae hefyd wedi ymgymryd ag amryw o gomisiynau portread ac yn fwy diweddar dechreuodd archwilio ei wreiddiau Eidaleg gyda chyfres o ddarluniau ac ysgarthiadau o drefi a thirluniau o ogledd a chanolbarth yr Eidal. Mae ei waith wedi bod yn destun sawl rhaglen ddogfen ar y teledu ac yn cael ei gynrychioli mewn amryw o gasgliadau cyhoeddus; corfforaethol a phreifat ar draws y byd.
Ddechrau 2014 cafodd ei waith ei amlygu mewn arddangosfa wrtholygol fawr yn Oriel Gelf ac Amgueddfa Leamington Spa, a gasglodd ynghyd rhai o’i ddarluniau mwyaf eiconig yn dyddio’n ôl i 1964
"Mae'n beintiwr a gwneuthurwr printiau sy’n ymroddedig i ddatganiadau cyflawn plaen sy'n gadael fawr ddim i ffawd ac eto, os yw’n cael ei wneud gyda digon o awdurdod mae’n gallu creu barddoniaeth o ffeithiau cyffredin o ddydd i ddydd nad yw’r rhan fwyaf ohonom prin yn sylwi arnynt.” (Bernard Dunstan RA)
"Paentio ei wreiddiau mae David Carpanini. Er bod ei luniau’n gadarn gynrychioliadol maen nhw’n mynegi‘r haniaethol yn huawdl - ofn, unigrwydd a goroesi. Bydd y rheiny ohonoch a welodd y rhaglenni am ei waith ar Channel 4 a HTV Cymru yn cofio’r lluniau hyn ac egni garw'r lluniadau a’r ysgythriadau siarcol. Maen nhw’n cael eu gosod yng Nghymru, ond nid yw'r datganiadau mae’n eu gwneud wedi’u cyfyngu i gymoedd Cymru, mae’r teimladau maen nhw’n eu hennyn yn rhyngwladol. "(Robin Stemp).
20 Gorffennaf 2016: Traddododd yr actor, Matthew Rhys, a enwebwyd ar gyfer gwobr Emmy, Ddarlith Flynyddol Richard Burton, yng Nghynhadledd Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru.
Yn dwyn y teitl ‘From House of America to The Americans’, archwiliodd mewn sgwrs gyda’r Athro Daniel Williams ei yrfa sy’n cwmpasu ei rôl yn ffilm Ed Thomas am y Gymru ôl-ddiwydiannol hyd at ei rôl fel ysbïwr y Rhyfel Oer a enwebwyd ar gyfer gwobr, drwy ei bortread o’r eicon Cymreig Dylan Thomas.
Traddodwyd darlith flynyddol Richard Burton gan yr hanesydd a'r bywgraffydd, yr Athro Angela V. John, yn Ysgol Isaf Dyffryn, Port Talbot (11 Tachwedd 2015). Gan nodi 90 o flynyddoedd ers geni Richard Burton, bu'r ddarlith yn pwysleisio rôl hollbwysig athrawon wrth feithrin dawn actorion ifanc addawol o'r dref.
Canolbwyntiodd yr Athro John ar Richard Jenkins (Burton) a'i gyfoedion ac ar Anthony Hopkins. Dangosodd sut helpodd ychydig o unigolion â gweledigaeth ac angerdd am ddrama, mewn ysgolion a chanolfannau ieuenctid, i drawsnewid bywydau a chyfleoedd y bobl ifanc hyn, gan osod sylfaen i'r dref ddod yn adnabyddus am sêr yn ogystal â dur.
Teitl y ddarlith oedd ‘Educating Richard: Actors and Educators in Port Talbot, 1925-55’ ac, yn ddigon priodol, cyn y ddarlith cafwyd perfformiad gan ddisgyblion o Ysgol Dyffryn o olygfeydd o "A Midsummer Night's Dream"
Dyfynnodd yr Athro John o’i llyfr "The Actors’ Crucible. Port Talbot and the Making of Burton, Hopkins, Sheen and All the Others" (Parthian, Tachwedd 2015).
Meddai'r Athro Angela John, "John Gielgud said that Burton came from nowhere. He didn’t come from nowhere. He came from an extremely rich cultural background in Port Talbot – the town of stars and steel, and the actors’ capital of Wales.
Burton grew up in a world of chapels, opera, eisteddfods, in a town with a vibrant amateur dramatic tradition. He encountered devoted teachers like Philip Burton, with his links to the BBC, and writers and producers like Leo Lloyd and Cyril Jenkins, a railwayman by profession, who in his spare time ran the YMCA theatre company and adapted short stories from Tolstoy.
These were the inspirers behind the stars. It is not simply a case of the isolated genius."
Meddai'r Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton er Astudio Cymru, "Rydym ni yng Nghanolfan Richard Burton, wrth ein boddau’n croesawu’r hanesydd nodedig, Angela V. John, i draddodi darlith 2015. Mae ei chyfraniad at ehangu meysydd astudiaethau hanesyddol a diwylliannol Cymru'n cael ei gydnabod yn eang.
Ar ôl arloesi ym meysydd hanes ffeministaidd ac ysgrifennu bywgraffyddol, yma mae'n dychwelyd at fro ei mebyd, gan archwilio'r matrics diwylliannol cyfoethog a feithrinodd ddoniau Richard Burton, Anthony Hopkins, Michael Sheen a llawer eraill.
Yr Athro John yw'r dewis perffaith i draddodi darlith flynyddol 2015, ac roedd y pwnc a'r lleoliad yn hynod briodol gan gofio bod Richard Burton wedi cael ei addysg yn Ysgol Dyffryn."
Ar ôl iddi raddio â doethuriaeth o Fanceinion, bu'r Athro John yn darlithio am bron 30 o flynyddoedd, yng Nghaint ac wedyn yn Llundain. Roedd ei llyfr cyntaf, By The Sweat of Their Brow, yn astudiaeth arloesol o gyflogaeth menywod ym mhyllau glo Prydain. Ysgrifennodd lyfr arobryn ar gyfer ysgolion hefyd, sef Coalmining Women.
25 Ebrill 2013: George W. S. Abbey Sr.
'Wales, America and the Space Race'
4 Hydref 2011: John McGrath
‘From Blackwood to Brecon to Port Talbot’s Passion: The National Theatre Wales journey’