Mae yna sawl Gwasanaethau Cymorth ym Mhrifysgol Abertawe sy'n ymdrechu i wneud profiad ein myfyriwr yn un cynhwysol a gwerth chweil.  

Mae grŵp arall llai ffurfiol hefyd sy'n rhoi o'u hamser i hyrwyddo ymddygiad ac agweddau cynhwysol ymhlith staff a defnyddwyr Gwasanaethau Proffesiynol ac i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol mewn llyfrgelloedd a gwasanaethau eraill y brifysgol.  Mae'r Grŵp Gwasanaethau Cynhwysol yn cefnogi'r Brifysgol yn ei hamcan i wireddu potensial pob myfyriwr ac aelod o'r staff beth bynnag fo'u nodwedd warchodedig (oedran, rhyw, hil, ailbennu rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd a chred). Yn y bennod hon mae Mandy a Pamela yn siarad â chadeirydd y grwp, Philippa Price a'r ysgrifennydd Tina Webber, i ddysgu mwy am rai o'r prosiectau y mae'r grŵp wedi bod ynghlwm â nhw yn ddiweddar. 

Dewch o hyd i ddolenni at rai o'r adnoddau a drafodwyd yn y bennod hon: 

Canllaw e-lyfrau 

Canllawiau llyfrgell ar-lein 

Ethos Grŵp Gwasanaethau Cynhwysol 

Digwyddiadau Llyfrau Byw 

Os hoffech ddysgu mwy am y Bathodyn Cynwysoldeb gallwch ddarllen sut y daeth i fodolaeth ar Blog SALT, ac os hoffech wybod mwy am sut i gael un eich hun, gallwch hunan-gofrestru ar y modiwl Canvas CPD – Cwrs Ymarfer Cynhwysol. 

Yn y bennod hon

Phillipa Price

Llun o Phillipa Price

Tina Webber

Llun o Tina Webber

Mandy Jack

Llun o Mandy Jack

Pamela Styles

Llun o Pamela Styles

Adnoddau Bennod