Tina Webber yw Rheolwr y Ganolfan yng Nghanolfan Drawsgrifio Abertawe, sy’n darparu fformatiau dysgu hygyrch ar gyfer myfyrwyr anabl. 

Tina Webber y tu allan i’r Ganolfan Drawsgrifio

Beth sy’n arbennig am Ganolfan Drawsgrifio Abertawe? A beth yw eich barn am eich swydd? 

Ninnau yw’r unig brifysgol yng Nghymru ac un ymhlith saith sefydliad yn unig yn y DU, i gael canolfan drawsgrifio, sy’n gwneud Abertawe’n ddewis hynod boblogaidd ar gyfer myfyrwyr sy’n anabl o ran argraffu, ac yn rhoi mantais fawr i ni yn erbyn sefydliadau Addysg Uwch eraill. 

Yn fy marn i, rydw i’n llysgennad ar gyfer Prifysgol Abertawe ac yn mwynhau ymweld â’r colegau arbenigol ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg ledled y wlad, gan addysgu’r myfyrwyr ynghylch eu hawliau ac yn eu hannog i ddod i Abertawe. 

Sut mae technoleg yn helpu i gefnogi myfyrwyr ag anawsterau o ran hygyrchedd, ac a fydd hi’n disodli’r elfen ‘ddynol’ yn y gwaith trawsgrifio? 

Mae gwelliannau yn y dechnoleg gynorthwyol yn ein galluogi i sicrhau bod yr un adnoddau ar gael i fyfyrwyr sy’n anabl o ran argraffu fel y maen nhw ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn anabl. 

Roedd hi’n arfer cymryd tua 10 wythnos i ni recordio un gwerslyfr drwy ddefnyddio recordiadau o leisiau dynol.Roedd hyn yn golygu y byddai’n rhaid i fyfyriwr ddewis llyfrau penodol o’i restr ddarllen.Bellach, gallwn ni gael copïau pdf o ran fwyaf y llyfrau ar restr ddarllen, a bydd y ffeil ar gael i fyfyriwr drwy ddefnyddio meddalwedd sy’n darllen sgrîn.Os bydd Prifysgol Abertawe yn meddu ar gopi o’r llyfr a bydd copi digidol ar gael, mae’r myfyriwr yn gallu cael cynifer o lyfrau ag y mae e’n eu dymuno! 

Bydd angen yr elfen “ddynol” yn y gwaith trawsgrifio bob amser, oherwydd bod rhan fwyaf y cymwysiadau technoleg gynorthwyol yn dal i gael trafferth gyda materion mwy cymhleth fel disgrifio delweddau, tablau a ffigurau. 

Bydd gan bob myfyriwr unigol anghenion trawsgrifio gwahanol gan ddibynnu ar gyflwr ei lygaid a’r pynciau mae ef yn eu hastudio.Does dim ymagwedd “un ateb sy’n addas i bawb” at drawsgrifio.Yn aml iawn, mae’n rhaid i drawsgrifwyr feddwl yn ofalus am sut i drawsgrifio’r wybodaeth wreiddiol mewn ffordd ystyrlon sy’n cadw’n driw i ddogfen wreiddiol.Dyw cyfrifiadur neu gymhwysiad meddalwedd ddim yn gallu gwneud hynny! 

Sut beth yw diwrnod nodweddiadol i chi? 

Rydyn ni’n teimlo’n frwdfrydig iawn am ein swyddi fel trawsgrifwyr ac yn aml bydd ein swydd o ddydd i ddydd yn cynnwys llawer iawn o ymchwil a gwybodaeth fanwl. 

Un diwrnod, gallen ni fod yn chwyddo ac yn ail-labelu diagramau o’r ymennydd, ac yn argraffu symiau mawr o braille y diwrnod nesaf.Rydyn ni’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, ac fel tîm rydyn ni i gyd yn cyfrannu meysydd arbenigedd gwahanol sy’n ein helpu ni i ddysgu oddi wrth ein gilydd. 

Rydyn ni’n gwybod bod adnoddau sy’n rhad ac am ddim ar gael i fyfyrwyr sydd â nam ar eu golwg. Beth arall sydd ar gael i fyfyrwyr a staff sydd ag anawsterau  hygyrchedd? 

Mae gan y Brifysgol ystod o gyfarpar hygyrchedd ar ei rhwydwaith sydd ar gael i bob myfyriwr ac aelod o staff drwy’r bwrdd gwaith unedig. 

Yn ogystal, mae’r porth dysgu iView ar gael yn rhad ac am ddim.  

Sut ddyfodol sydd gan y Ganolfan Drawsgrifio? 

Mae angen i ni barhau i arddangos Abertawe fel sefydliad sy’n arwain o ran cefnogi myfyrwyr sydd â nam ar eu golwg. 

Hoffwn i weld y ganolfan yn tyfu yn unol â nifer y myfyrwyr ar y cyfan, ac yn parhau i addysgu cydweithwyr ynghylch hygyrchedd ac arfer gorau.