Dyddiad cau: 27 Ebrill 2026

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig

Darparwyr y cyllid:  IDLA y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol a The Dyson Institute 

Y meysydd pwnc:  Mecaneg / Dirgryniad strwythurol 

Dyddiadau dechrau'r prosiect:  

  • Gorffennaf 2026 
  • Hydref 2026 

**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl). 

** Mewn amgylchiadau eithriadol,ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo. 

Goruchwylwyr:  

  • Dr Alexander Shaw  
  • Dr Hadi Madinei  
  • Dr Javad Taghipour at The Dyson Institute  

Rhaglen astudio gydnaws:  PhD mewn Peirianneg Fecanyddol 

Dull astudio: Amser llawn neu Rhan Amser 

Man Astudio:  

  • Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae) 
  • Arall:  Mae lleoliad gwaith ar gael yn The Dyson Institute am o leiaf 3 mis. 

Dull astudio:  Amser llawn neu Rhan Amser 

Man Astudio:  

  • Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae) 
  • Arall:  Mae lleoliad gwaith ar gael yn The Dyson Institute am o leiaf 3 mis. 

Disgrifiad o'r Prosiect:  

Mae nodi a dilysu modelau ar gyfer strwythurau cymhleth sy'n cynnwys aflinoledd yn parhau i fod yn her arloesol ym maes deinameg strwythurol, gyda chymwysiadau'n cwmpasu strwythurau sifil, microelectroneg a chaledwedd y gofod. Nod yr ymchwil PhD hon yw datblygu Fframwaith Dethol Dulliau ar gyfer Modelu Trefn Llai (ROM) ym maes Deinameg Strwythurol - gan ddefnyddio dysgu peirianyddol i adeiladu modelau cadarn y gellir eu dehongli o ddata arbrofol a gweithredol. 

Y nod craidd yw cydbwyso cywirdeb y model ag effeithlonrwydd cyfrifiadol, gan ddiwallu anghenion dilysu arbrofol. Bydd y fframwaith yn manteisio ar dechnegau uwch megis dysgu peirianyddol, optimeiddio algorithmau, a dadansoddiad o sensitifrwydd er mwyn awtomeiddio a gwella'r broses dethol dulliau. Y canlyniad fydd methodoleg raddadwy sy'n gwella perfformiad modelu trefn llai, gan eu gwneud nhw'n fwy perthnasol i fonitro iechyd strwythurol mewn amser go iawn, dadansoddi digryniadau, a rheoli dyluniad. 

Mae'r ymchwil hon yn cynnig effaith yn y byd go iawn ar draws nifer o ddiwydiannau, gan gynnwys: 

- Awyrofod: Dyluniad cyflymach a mwy effeithiol a monitro cyflwr mewn amser go iawn er mwyn creu awyrennau a llongau gofod mwy diogel. 

- Peirianneg Sifil: Monitro iechyd mewn amser go iawn ar gyfer pontydd a nendyrau, gan alluogi canfod difrod yn gynnar. 

- Ynni Adnewyddadwy: Dyluniad cyflym, wedi'i optimeiddio ar gyfer llafnau a strwythurau tyrbinau gwynt ar gyfer egni mwy gwyrdd. 

- Microstrwythurau: Dadansoddiad cywir ac effeithlon o ddyfeisiau megis MEMS, gyda'r gost gyfrifiadol leiaf posibl. 

Drwy ddatblygu fframwaith modelu trefn llai uwch, bydd y prosiect hwn yn grymuso peirianwyr a dylunwyr i gyflawni mwy gan ddefnyddio llai - gan gyflwyno penderfyniadau sy'n cael effaith fawr yn gynt, yn fwy hyderus a chan arwain at gost sy'n llawer is.  

Mae'r cyfle hwn am PhD ym Mhrifysgol Abertawe, a chaiff ei oruchwylio mewn partneriaeth â The Dyson Institute. Caiff ei gyllido gan wobr IDLA y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, gan gynnig ariantal hael. Mae cyfleoedd datblygu gyrfa sylweddol ynghlwm â’r PhD, gan gynnwys cyllid ar gyfer rhwydweithio, costau ymchwil a hyfforddiant, a lleoliad gwaith yn The Dyson Institute am o leiaf 3 mis. Byddai'r lleoliad gwaith hwn yn darparu cyfleoedd arbennig i'r ymgeisydd ymgysylltu ag arbenigwyr ym myd diwydiant drwy broblemau bywyd go iawn, rhoi cyflwyniadau i gynulleidfaoedd o fyd diwydiant yn ystod wythnos cynhadledd flynyddol The Dyson Institute, ac ennill profiad ymarferol. Yn Abertawe, mae'r goruchwylwyr, Dr Alexander Shaw a Dr Hadi Madinei, wedi cyhoeddi'n helaeth ym maes deinameg strwythurol aflinol, ac maen nhw'n rhan o grŵp ymchwil Deinameg Strwythurol mawr ei fri Abertawe, sy'n rhan o Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu Data a Deallusrwydd Artiffisial, ac mae ganddynt fynediad at gyfleusterau labordy rhagorol. Caiff hyn ei ategu gan brofiad Dr Javad Taghipour a Dr Ugur Efem yn The Dyson Institute. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gefndir neilltuol mewn peirianneg neu faes cysylltiedig, ac yn ddelfrydol, bydd ganddo ychydig o brofiad arbrofol neu brofiad ymarferol.  

Geiriau allweddol: Peirianneg, Deinameg Strwythurol, Gefeilliaid Digidol, Dysgu Peirianyddol 

Hyd cyllido: 4 blynedd 

Cymhwyster

Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig.  

PhD: Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer cwrs PhD feddu ar radd israddedig ar lefel 2.1, (neu radd gyfatebol o'r tu allan i'r DU, fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) mewn Peirianneg neu mewn disgyblaeth berthnasol debyg. 

Yr Iaith Saesneg:  

IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 5.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn am ein polisi iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau, yma. 

Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.

Cyllid

Oherwydd cyfyngiadau cyllidmae’r ysgoloriaeth hon ar agor i ymgeiswyr sy‘n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y DU ym unigfel y’i diffinir gan UKCISA (Rhestr lawn o gategoriau ar gyfer addysg uwch yng Nghymru). 

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffîoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26) yn ogystal ag ariantal blynyddol ychwanegol uwch gwerth o leiaf £2000. 

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd. 

Sut i Wneud Cais

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon: 

Gorffennaf 2026, Amser Llawn 

Gorffennaf 2026, Rhan Amser 

Hydref 2026, Amser Llawn 

Hydref 2026, Rhan Amser 

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y.RS945 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol) 

  • Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:  
  • y Cod RS945, a 
  • teitl yr ysgoloriaeth.   
  • Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag 
  • Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw 
  • Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf) 

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.  

* Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe. 

NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.    

Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost): 

  • CV 
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol) 
  • Llythyr eclawrol sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect. 
  • Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol). 
  • Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol) 
  • Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI 

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:  

ENW: Dr Alex Shaw 

EBOST: a.d.shaw@swansea.ac.uk 

ENW: Dr Hadi Madinei  

EBOST: hadi.madinei@swansea.ac.uk  

*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.