Dyddiad cau: 27 Ebrill 2026

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig

Darparwyr y cyllid:  Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a TWI 

Y meysydd pwnc:  Cyfrifiadureg, Peirianneg Awyrofod, Peirianneg Sifil, Ffiseg 

Dyddiadau dechrau'r prosiect:  Gorffennaf 2026 **(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl). 

Goruchwylwyr:  

  • Yr Athro Chenfeng Li (Goruchwylydd cyntaf)  
  • Yr Athro Richard Johnston (Ail Oruchwyliwr) 

Rhaglen astudio gydnaws: PhD mewn Cyfrifiadureg 

Dull astudioAmser llawn neu Rhan Amser 

Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae) 

Disgrifiad o'r Prosiect:  
Ydych chi'n angerddol am ddeallusrwydd artiffisial, dadansoddeg data a chymwysiadau peirianneg arloesol? Ymunwch a'n tîm ymchwil ryngddisgyblaethol a chyfrannu at ddyfodol Profi Anninistriol (NDT) - techneg hanfodol a ddefnyddir mewn diwydiannau i asesu deunyddiau, cydrannau a strwythurau heb achosi difrod. 

Mae'r prosiect PhD hwn yn canolbwyntio ar wella Profi Uwchsain a Thomograffeg Gyfrifiadurol Pelydr-x (CT) - dwy dechneg NDT allweddol a ddefnyddir i archwilio deunyddiau metelig a chyfansawdd. Mae'r dulliau hyn yn creu setiau data 3D mawr sy’n gallu bod yn anodd i arbenigwyr dynol ddadansoddi, gan gynyddu'r risg o beidio canfod diffygion. 

Gan ddefnyddio pŵer deallusrwydd artiffisial (AI), nod yr ymchwil hon yw: 

Awtomeiddio'r gwaith o ganfod diffygion mewn data 3D strwythurol cymhleth 
Gwella cywirdeb diagnostig a chyflymder prosesu 
Darparu ail farn i arbenigwyr dynol 

Mae'r prosiect hwn yn integreiddio prosesu delweddau, dadansoddeg data, dysgu peirianyddol, a modelu cyfrifiadol, gyda chymwysiadau mewn 

peirianneg awyrofod, mecanyddol, sifil, a deunyddiau.  

Croesewir ymgeiswyr sydd â chefndir mewn: 

🔹 Cyfrifiadureg 

🔹 Peirianneg Awyrofod 

🔹 Peirianneg Sifil 

🔹 Ffiseg 

Os oes gennych ddiddordeb brwd mewn deallusrwydd artiffisial, gwyddor data, neu fodelu cyfrifiadol, ac awydd cydweithio ag arbenigwyr y diwydiant, dyma'r cyfle i chi! 

Pam ymuno â ni? 

Gweithio gyda thîm ymchwil ac arbenigwyr y diwydiant blaenllaw 
Ennill hyfforddiant rhyngddisgyblaethol mewn deallusrwydd artiffisial, modelu a dadansoddeg data 
Cyfrannu at gymwysiadau peirianneg y byd go iawn 
  Bod yn rhan o gymuned ymchwil ddeinamig yn Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial 

Cymhwyster

Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig.  

PhD: Mae arnom angen o leiaf gradd 2: 1 neu gyfwerth mewn cyfrifiadureg neu ddisgyblaeth wyddonol berthnasol debyg, neu radd Meistr briodol gyda theilyngdod. 

Yr Iaith Saesneg:  

IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.0 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn am ein polisi iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau, yma. 

Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: 

Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu'r holl ffioedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26) yn ogystal â swm blynyddol ychwanegol o £1200 

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd. 

Sut i Wneud Cais

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon.  

 Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y.RS939 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol) 

  • Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:  
    • y Cod RS939, a 
    • teitl yr ysgoloriaeth.   
  • Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag 
  • Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw 
  • Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf) 

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.  

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe. 

  1. Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
  2. Anfonwch e-bost at pgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chod RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb. Yna bydd staff derbyn yn diweddaru'ch cais yn unol â hynny.
  3. Mae angen un cais fesul dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe unigol; ni ​​ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru dyfarniadau ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe lluosog.

NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.    

Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost): 

  • CV 
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol) 
  • Llythyr eclawrol sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect. 
  • Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol). 
  • Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol) 
  • Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI 

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:  

Yr Athro Chenfeng Li: c.f.li@swansea.ac.uk  

*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol. 

 ** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.