Dyddiad cau: 27 Ebrill 2026

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig

Darparwyr y cyllid: EPSRC 

Y meysydd pwnc:  Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau, Peirianneg Gemegol, Peirianneg Electrocemegol, Cyfansoddion Uwch 

Dyddiadau dechrau'r prosiect:  

  • Gorffennaf 2026 

**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl). 

** Mewn amgylchiadau eithriadol,ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo. 

Goruchwylwyr:  

  • Dr Jing Wang (Prif Oruchwyliwr)  
  • Dr Rui Tan (Ail Oruchwyliwr) 

Rhaglen astudio gydnaws: PhD mewn Pheirianneg Deunyddiau

Dull astudio: Amser llawn 

Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae) 

Disgrifiad o'r Prosiect:  

Mae'r datblygiadau cyflym iawn mewn electroneg gludadwy sy'n dod i'r amlwg, trafnidiaeth (e.e. cerbydau trydan, cerbydau trydan hybrid, awyrennau ymreolaethol, etc), a storio ynni ar raddfa grid mewn modd clyfar wedi ysgogi'r galw cynyddol am systemau storio ynni dwysedd ynni uchel, diogel iawn a chost isel. Serch hynny, mae'r defnydd parhaus o fatris lithiwm-ïon (LIBs) ar raddfa fawr yn cael ei gyfyngu gan eu cost uchel o ystyried prinder a dosbarthiad anghyson adnoddau lithiwm, sydd hefyd yn gysylltiedig yn aml â hanes gwael o ran yr amgylchedd a hawliau dynol, gan arwain at ddisodli LIBs confensiynol â'r genhedlaeth nesaf o systemau batris cost isel a chynaliadwy.  

Fel prif ddewis amgen i ddeunyddiau costus nad ydynt yn fioddiraddadwy (e.e. CNTs a graffîn), mae nanogrisialau seliwlos (CNCs) yn nanoddeunyddiau strwythurol biolegol a chynaliadwy a chanddynt y rhinweddau ychwanegol o argaeledd ar raddfa fawr am gost gymharol isel, ynghyd â chael eu tynnu o'r adnodd mwyaf niferus (h.y. seliwlos) ac yn meddu ar fodiwlau uchel dynnol yn yr ystod  110 i 220 GPa.  

Yn unol â hynny, mae'n hanfodol dyfeisio "Nanoddeunyddiau Biolegol Cynaliadwy ar gyfer y Genhedlaeth Nesaf o Dechnolegau Storio Ynni Cost Isel" gyda systemau ynni dyfrllyd ac annyfrllyd i'w masnacheiddio'n ymarferol ar raddfa fawr. Yn y prosiect hwn, ein nod yw dylunio strwythurau unigryw nanoddeunyddiau biolegol cynaliadwy drwy dechnolegau uwch ar gyfer teilwra'r perfformiadau electrocemegol a'r priodweddau strwythurol i wella sefydlogrwydd cylchynu hirdymor, dwysedd ynni a dwysedd pŵer a diogelwch cyffredinol y genhedlaeth nesaf o systemau batris sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwireddu'r genhedlaeth nesaf o systemau storio ynni cost isel, dwysedd ynni uchel, diogel iawn. 

Mae'r prosiect hwn yn cynnwys cydweithredu ag arbenigwyr blaenllaw a mynediad gwerthfawr at offer o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Caergrawnt, Prifysgol Bryste, a Choleg Imperial Llundain. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r "Sefydliad Ymchwil Deunyddiau a Gweithgynhyrchu" a Grŵp "Nanocellwlos Amlswyddogaethol Cynaliadwy", sy'n cynnig cyfleoedd i ryngwynebu ag ysgolheigion uchel eu bri ac ehangu eich rhwydwaith academaidd.  

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn ymuno â CAPTURE (Circular Approaches To Utilise and Retain Energy), sy'n ganolfan arbenigedd ym Mhrifysgol Abertawe a sefydlwyd yn 2020 i arwain atebion arloesol ar gyfer y trawsnewid ynni byd-eang.  

Yn CAPTURE, byddwch yn elwa o:

 Labordai ac arbenigedd o'r radd flaenaf mewn gwyddor deunyddiau, technolegau batris a gweithgynhyrchu cynaliadwy.  

  • Cydweithredu uniongyrchol âLeafTech Ltd a phartneriaid allweddol eraill yn y diwydiant, gan ddarparu cysylltiad gwerthfawr â heriau ar raddfa ddiwydiannol a chymhwyso eich ymchwil yn ymarferol. (Darperir interniaeth hefyd yn dibynnu ar gynnydd y prosiect) 
  • Sylfaen gadarn mewn sgiliau technegol, dadansoddol ac ymchwil, gan wella eich rhagolygon gyrfa yn y byd academaidd, ymchwil a datblygu, a'r sector ynni glân sy'n tyfu. 
  • Cyfleoedd i gyflwyno eich gwaith mewn cynadleddau rhyngwladol, ymgysylltu â rhanddeiliaid y diwydiant, a chyfrannu at gyhoeddiadau sy'n creu effaith fawr. 

Y tu hwnt i arloesi ym maes batris, mae gan yr ymchwil hon oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer dylunio deunyddiau cynaliadwy, gweithgynhyrchu carbon isel, a maes ehangach systemau storio ynni. 

O ganlyniad, bydd addewid gwyddoniaeth sylfaenol a masnacheiddio'r prosiect "Nanoddeunyddiau Biolegol Cynaliadwy ar gyfer y Genhedlaeth Nesaf o Systemau Storio Ynni" ynghyd â'n hymdrechion ar y cyd yn meithrin partneriaethau academaidd a diwydiannol, gan gyfrannu at wireddu uchelgais Prifysgol Abertawe i fod yn un o'r 30 Prifysgol Gynaliadwy Orau, Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ac Ymrwymiad Sero-Net 2050 y DU. 

D.S. Ar gyfer y cais hwn, croesewir ac anogir ymgeiswyr brwdfrydig ar gyfer Cynaliadwyedd, Electrocemeg, Storio Ynni Adnewyddadwy, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg a Gwyddor Deunyddiau, Gwyddoniaeth a Pheirianneg Cyfansoddion. 

Cyfnod ariannu – 3 blynedd

Cymhwyster

Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr o'r DU a rhyngwladol. 

PhD: Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer cwrs PhD feddu ar radd israddedig ar lefel 2.1, (neu radd gyfatebol o'r tu allan i'r DU, fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) mewn Peirianneg neu mewn disgyblaeth berthnasol debyg.  

Yr Iaith Saesneg:   

IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 5.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn am ein polisi iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau, yma. 

Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: 

Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol. 

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch ppgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. 

Sylwer bod y rhaglen yn gofyn i rai ymgeiswyr feddu ar gymeradwyaeth ATAS, mae mwy o fanylion am gymwysterau'r cynllun ATAS ar wefan Llywodraeth y DU.  

NID yw'n ofynnol cael cymeradwyaeth ATAS fel rhan o'r broses ymgeisio am ysgoloriaeth. Rhoddir manylion i ddeiliaid dyfarniad (fel y bo'n briodol) ynghylch sut i gyflwyno cais am gymeradwyaeth ATAS ar yr un pryd â chael cynnig ysgoloriaeth am gwrs. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd). 

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd. 

Sut i Wneud Cais

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon 

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.  

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y.RS946 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)  

  • Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:   
  • y Cod RS946, a  
  • teitl yr ysgoloriaeth.    
  • Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag  
  • Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag  
  • Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw 
  • Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)  

3)  Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.   

* Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.  

NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.     

Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):  

  • CV 
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)  
  • Llythyr eclawrol sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect.  
  • Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda.  
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol).  
  • Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)  
  • Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI 

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:  

ENW: Dr Jing Wang 

EBOST: jing.wang@swansea.ac.uk 

ENW: Dr Rui Tan 

EBOST: rui.tan@swansea.ac.uk 

*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.