Peirianneg Electronig a Thrydanol: Rheoli Mirco-gridiau a Lywir gan Ddata (RS971)
Dyddiad cau: 24 Mehefin 2026
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: IDLA yr EPSRC a Sefydliad Dyson
Y meysydd pwnc: Rheoli Mirco-gridiau a Lywir gan Ddata
Dyddiadau dechrau'r prosiect: Hydref 2026
**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.
Goruchwylwyr:
- Dr Meghdad Fazeli
- Dr Mohammad Monfared
- Kayode Popoola Kayode.Popoola@dyson.com (Sefydliad Dyson)
- Srilatha Pamuri Narayanagari Srilatha.PamuriNarayanagari@dyson.com (Sefydliad Dyson)
Rhaglen astudio gydnaws: PhD mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol
Dull astudio: Amser llawn neu Rhan Amser
Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae)
Arall: Sefydliad Dyson
Disgrifiad o'r Prosiect:
Er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chyflawni targed Sero Net y DU, disgwylir y bydd integreiddio ffynonellau ynni adnewyddadwy (RESs) ar lefel ddosbarthu/ddefnyddio yn parhau i gynyddu. Mae natur ansefydlog ac ysbeidiol RESs yn achosi anawsterau sylweddol ar gyfer gweithredwr y rhwydwaith o ran cydbwyso cynhyrchu ynni â'r galw amdano a chynnal ansawdd pŵer, sy'n golygu bod y rhwydwaith yn dueddol o fod yn ansefydlog a phrofi palliadau. Yn ogystal â'u natur ansefydlog, ni all RESs ddarparu’r un gwasanaethau ategol (megis rheoli foltedd ac amledd) y mae generaduron syncronaidd confensiynol yn eu darparu'n naturiol, gan waethygu'r sefyllfa wrth i'r RESs gael eu treiddio i raddau mwy, yn enwedig ar y lefel ddosbarthu.
Yn y cyd-destun hwn, mae micro-gridiau (MGs) yn cyfeirio at glystyrau o ddefnyddwyr, pro-ddefnyddwyr (defnyddwyr a chynhyrchwyr), systemau storio ynni (ESSs), a cherbydau trydan (EVs) sydd at ei gilydd yn creu cymuned ynni leol (EC). Nod ECs yw hwyluso mecanweithiau cyfnewid ynni rhwng cymheiriaid (P2P) er mwyn optimeiddio nodau megis biliau is, llai o allyriadau neu leihau faint o ynni sy'n cael ei gyfnewid â'r grid. Mae gan ECs o'r fath y potensial i ddarparu gwasanaethau ategol i'r grid, megis cydbwyso pŵer, lleihau/addasu cyfnodau prysur o ran defnydd, cymorth foltedd ac amledd, ac ymateb inertiol rhithwir.
O ganlyniad i natur ansefydlog ac ysbeidiol RESs, yn y prosiect hwn, defnyddir dulliau dysgu peirianyddol i ragweld yn gywir lefelau cynhyrchu a galw lleol. I wneud hynny, defnyddir data lleol hanesyddol (e.e. adeiladau gweithredol Prifysgol Abertawe) a data'r Swyddfa Dywydd i hyfforddi a dilysu'r model ML arfaethedig. Wedyn defnyddir y data wedi’i ragfynegi i gynnig ac optimeiddio strategaeth rheoli ynni ar gyfer cymuned ynni sy'n cynnwys sawl pro-ddefnyddiwr a nifer o ddefnyddwyr, ESSs, ac EVs. Caiff strategaethau cyfnewid ynni gwahanol eu cynnig ar gyfer cerbyd i gartref a cherbyd i gymuned, a chaiff y rhain eu harchwilio i gyflawni masnachu P2P yn y gymuned ynni.
Cyflawnir y prosiect gan ddefnyddio codio a modelu MatLab mewn amgylchedd Simulink.
Mae lleoliad gwaith ar gael yn The Dyson Institute.
Cyfnod ariannu: 4 blynedd
Cymhwyster
Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Mae ysgoloriaethau ymchwil IDLA yr EPSRC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall myfyrwyr rhyngwladol gynrychioli hyd at 30% o'n carfan o fyfyrwyr; unwaith ein bod wedi cyrraedd yr uchafswm, ni allwn gynnig lleoedd i fyfyrwyr rhyngwladol. Rydym yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr rhyngwladol o hyd.
Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer cwrs PhD feddu ar o leiaf radd israddedig ar lefel 2.1 mewn Peirianneg neu bwnc cysylltiedig neu radd meistr â ‘Theilyngdod’ cyffredinol (neu radd gyfatebol o'r tu allan i'r DU), fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe.
Goynion Mynediad Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd angen canlyniad derbyniol mewn cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy i wneud yn siŵr y byddwch yn gallu manteisio’n llawn o astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, a phrawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gydag isafswm o 6.5, a 5.5 ym mhob cydran). Ceir rhestr lawn o brofion derbyniol Iaith Saesneg yma.
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:
Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Sylwer bod y rhaglen yn gofyn i rai ymgeiswyr feddu ar gymeradwyaeth ATAS, mae mwy o fanylion am gymwysterau'r cynllun ATAS ar wefan Llywodraeth y DU.
NID yw'n ofynnol cael cymeradwyaeth ATAS fel rhan o'r broses ymgeisio am ysgoloriaeth. Rhoddir manylion i ddeiliaid dyfarniad (fel y bo'n briodol) ynghylch sut i gyflwyno cais am gymeradwyaeth ATAS ar yr un pryd â chael cynnig ysgoloriaeth am gwrs.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffîoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI (sef £21,805 ar gyfer 2026/27) yn ogystal ag ariantal blynyddol ychwanegol uwch gwerth o leiaf £3000
Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS971
2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)
- Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
- y Cod RS971, a
- teitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
- Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
- Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn arddangos rhybudd 'Cais Wedi'i Gyflwyno' ac yn blocio cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- Anfonwch e-bost at pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chod RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Yna bydd staff derbyn yn diweddaru'ch cais yn unol â hynny.
Pwysig: Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am yr un rhaglen a dyddiad dechrau, peidiwch ag ail-ymgeisio gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir gyda chyfeiriad e-bost sy'n wahanol i'r un a ddefnyddiwyd yn eich cais gwreiddiol yn cael eu derbyn na'u hystyried.
Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.
Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)
- Llythyr cyflwyno sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol – nodwch gall unrhyw gynnig a wneir fod yn amodol ar y lefel briodol o Saesneg. Mae rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol i'w gweld yma).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:
ENW: Dr Meghdad Fazeli
E-BOST: m.fazeli@swansea.ac.uk
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.