Dyddiad cau: 20 Ebrill 2026

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig

Darparwyr y cyllid:  Ymddiriedolaeth Wellcome 

Y meysydd pwnc: Newid yn yr hinsawdd a beichiogrwydd 

Dyddiadau dechrau'r prosiect:  

  • Gorffennaf 2026** 

**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl). 

Goruchwylwyr:  

  •  Professor Cathy Thornton 
  •  Dr Aisling Morrin 
  •  Dr Oliver Richards  

Rhaglen astudio gydnaws: Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd, MSc drwy Ymchwil 

Dull astudio: Llawn amser neu Rhan amser 

Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campws Y Singleton) 

Disgrifiad o'r Prosiect:  

Mae prosiect MAGENTA, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ym Mhrifysgol Abertawe'n ymdrin â bwlch hollbwysig wrth ddeall sut mae ffactorau sy'n ymwneud â'r hinsawdd, yn enwedig gwres, yn effeithio ar iechyd mamau a babanod newydd-anedig mewn cymunedau difreintiedig yng Nghymru a Llundain.  

Nod yr astudiaeth cysylltu data a samplu biolegol drawsddisgyblaethol hon yw deall effeithiau cysylltiad â gwres yn ystod beichiogrwydd, gan ystyried ffactorau cymdeithasol-ddemograffig, safonau tai a dylanwadau amgylcheddol eraill. Drwy gyfuno dadansoddi data ar raddfa fawr â samplu biolegol, mae MAGENTA am ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r cysylltiad rhwng ffactorau amgylcheddol a chanlyniadau iechyd, gan arwain o bosib at strategaethau a pholisïau iechyd cyhoeddus mwy gwybodus. Bydd y prosiect ymchwil hwn yn archwilio effaith gwres ar ymatebion llidiol menywod beichiog 

Cymhwyster

MSc drwy Ymchwil:  Dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf, neu gymhwyster cyfatebol, mewn pwnc cysylltiedig, neu dylai bod disgwyl i chi gyflawni cymhwyster o'r fath.   

 Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn am ein polisi iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau, yma. 

Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.

Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig.  

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch ppgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd). 

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd. 

Sut i Wneud Cais

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon. 

Gorffennaf: Llawn Amser 

Gorffennaf: Rhan Amser 

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y.RS937 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol) 

  • Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:  
  • y Cod RS937, a 
  • teitl yr ysgoloriaeth.   
  • Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag 
  • Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw 
  • Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf) 

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.  

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe. 

NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen. 

Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost): 

  • CV 
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol) 
  • Llythyr eclawrol sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect. 
  • Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol). 
  • Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol) 
  • Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI 

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:  

NAME: Yr Athro Cathy Thornton 

EMAIL: c.a.thornton@swansea.ac.uk

*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol. 

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.